Mae stêc i ni yn ddantaith prin iawn, felly pan fyddwn ni’n ei fwyta, ‘da ni am iddo fod y gorau posib.

Mae ein ffrindiau yn Ross a Ross yn arbenigwyr barbeciw, ac maent wedi rhannu gyda ni eu rysáit am stêc barbeciw haf hwyr. Mae’r tywydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn anrhagweladwy i ddweud y lleiaf, ond buom yn ddigon ffodus i gael ychydig o nosweithiau heulog. Amser i ni gael y barbeciw allan am y tro diwethaf cyn y flwyddyn nesaf?

Digon i 2-3
Amser Prepio: 10 munud yn gwresogi’r barbeciw + 10 munud yn gorffwys
Amser Coginio: 10 munud

500g o lygad yr asen drwchus (prynwch y gorau y gallwch ei fforddio)
Halen Barbeciw Ross & Ross (sy’n cynnwys Halen Môn gorau, ac a enillodd 2 seren blas gwych eleni)
Olew Hadau Rêp Prydeinig
Menyn dihalen Prydeinig
Bwnsiad o Deim wedi’i glymu

Tynnwch y stêc o’r oergell o leiaf ddwy awr cyn coginio a’i gadael, wedi gorchuddio, rhywle oer. Bydd hyn yn sicrhau bydd tymheredd y stêc yr un peth trwyddi draw.
Taniwch y siarcol ar y barbeciw. Rydym yn defnyddio siarcol Rhydychen (cymysgedd pren caled) a chychwynnydd simnai. Defnyddiwch ychydig o’r bag papur i oleuo’r siarcol. Peidiwch â defnyddio unrhyw hylif tanio neu blociau tanio, maent yn llygru’r bwyd.

Unwaith y bydd yn fflamgoch gosodwch y gril i wresogi am bum munud. Cymerwch y stêc a rhowch ychydig o olew hadau Rêp Prydeinig drosti.
Sesnwch y stêc ar un ochr ac o gwmpas yr ochrau. Da ni’n defnyddio ein Halen Barbeciw a enillodd 2 seren blas gwych eleni (cymysgedd o Halen Môn, siarcol, garlleg a mwg).
Rhowch y stêc ar y gril poeth, yr ochr sydd wedi ei sesno i lawr. Gadewch am funud i grwst ffurfio. Yna, sesnwch yr ochr arall a throwch drosodd. Coginiwch am un munud arall. ‘Da ni’n hoffi bastio’r stêc gyda brwsh teim a menyn meddal.

Yna coginiwch yr ochrau. Symudwch yn ôl ar yr ochr gyntaf am funud arall ac yna’r ochr arall. Cadwch i fastio. Profwch y parodrwydd naill ai gyda’ch bysedd (os da chi’n hyderus) neu defnyddiwch brofiedydd tymheredd. Anelwch am 58°c am stecen lled goch. Neu coginiwch at eich dant.

Nawr yw’r rhan bwysicaf. Gadewch y stêc i orffwys, wedi’i orchuddio, am o leiaf 10 munud yn rhywle weddol gynnes.

 

 

 

0
Your basket