Digwyddiad elusen flynyddol i helpu i godi arian am eu gwaith amhrisiadwy, achub bywyd, yw Swper Pysgod yr RNLI. Mae’n syml, mae’n hwyl, ac mae’n arbed bywydau. ‘Da chi’n gwahodd eich ffrindiau neu’ch teulu, gweini Swper Pysgod blasus, a chasglu rhoddion tuag at yr RNLI. Eleni, mae’r Swper Pysgod yn digwydd y penwythnos nesaf, a ‘da ni’n mawr obeithio y bydd ein rysáit pysgodyn cynaliadwy blasus yn ysbrydoli ychydig o bobl i goginio a chodi arian.

Digon i 4-6

Ar gyfer y rhosti ar y top:
2 corbwmpen canolig (tua 600g i gyd)
2 llwy de o Halen Môn

Ar gyfer y llenwad:
2 ffiled ganolig o gegddu (tua 300g i gyd)
1 dail bae
4 pupren ddu
2 ewin garlleg, wedi’u plicio
1 nionyn, wedi’i haneru
Bwnsiad bach o gennin syfi, wedi’u torri’n fân
50g blawd plaen
50g menyn
750ml llaeth cyflawn
Gratiad o nytmeg
2 llwy fwrdd o ddŵr mwg Halen Môn
175ml gwin gwyn
100g bresych deiliog yn dail wedi’i dynnu a’i dorri’n fras
150g gregyn gleision Ynys Môn wedi’u coginio

Dechreuwch trwy ratio’r corbwmpen yn fras a’i rhoi mewn rhidyll. Ysgeintiwch yr halen a gadewch i ddraenio dros bowlen neu’r sinc am o leiaf awr. Bydd hyn yn draenio unrhyw hylif gormodol o’r corbwmpen.

Tra bod y corbwmpen yn draenio, potsiwch y cegddu. Rhowch y ffiledi mewn padell ffrio ddwfn ynghyd â’r dail bae, puprennau, garlleg a nionyn a gorchuddiwch â dŵr.  Mudferwch am 10-12 munud, nes bod y pysgod wedi colli ei tryleuder. Rhowch ar un ochr i oeri.

Cynheswch y popty i 200C. Nesaf, gwnewch y saws gwyn. Toddwch y menyn mewn sosban dros wres canolig, trowch y blawd i ffurfio past. Coginiwch am ychydig funudau, gan droi drwy’r amser er mwyn cael gwared ar flas amrwd y blawd. Arllwyswch y llaeth a chwisgiwch yn gyson am 6-10 munud, nes bod y saws fatha hufen dwbl trwchus. Ychwanegwch y nytmeg wedi’i gratio, gwin gwyn a dŵr mwg, ac yna’r cennin syfi, bresych deiliog a’r cregyn gleision.

Rhowch fenyn dros ddysgl pobi 20x30cm a rhowch y cegddu i mewn i’r ddysgl mewn darnau mawr. Arllwyswch y saws gwyn gyda’r cregyn gleision a’r bresych deiliog a threfnwch y corbwpen wedi’u gratio ar ben y cwbl. Pobwch yn y ffwrn boeth am 20-25 munud, nes bod y corbwpen yn crisp ac yn euraidd.

DELWEDD: Jess Lea-Wilson
RYSÁIT: Anna Shepherd

 

0
Your basket