Ricotta Gnudi o The Towpath Cookbook - Halen Môn

Ricotta Gnudi o The Towpath Cookbook

by | Maw 11, 2021

INGREDIENTS

I fwydo 4

  • 500g / 1b 2 owns o ricotta

  • 170g / 6 owns o Barmesan, wedi’i gratio, a mwy ar gyfer gweini

  • 2 wy, wedi’u curo’n ysgafn

  • 5 llwy fwrdd o friwsion bara mân

  • 2 binsiad o nytmeg wedi’i gratio’n ffres

  • Blawd plaen, i orchuddio

  • 250g / 9 owns o fenyn heb halen

  • Llond llaw o saets

  • Halen a phupur

Mae’n debygol iawn fod unrhyw un sydd ddigon lwcus i fod wedi bod yng nghaffi The Towpath yn Llundain wedi syrthio mewn cariad â’r lle ar unwaith. Mae’r bwyd al fresco sy’n dwyllodrus o syml, wedi’i weini gyda chynhesrwydd a gofal, yn ei wneud yn hoff le i lawer o bobl.

Un o uchafbwyntiau’r cyfnod clo oedd gweithio ein ffordd drwy eu llyfr ryseitiau newydd, ac maent wedi bod yn ddigon caredig i rannu un ohonyn nhw yma gyda ni.

Mae’r rysáit canlynol yn dod o lyfr diweddar Lori De Mori a Laura Jackson, Towpath: Recipes & Stories (Chelsea Green Publishing) ac mae wedi’i ail-argraffu gyda chaniatâd y cyhoeddwr.

Mae’r rysáit wedi cael ei hysbrydoliaeth gan lyfr Lori, Beaneaters & Bread Soup . Yn ein hail flwyddyn, pan roedd gennym gegin ar y safle o’r diwedd, dechreuom gynnal cinio cymunedol. Roedd gan un ohonynt thema Twsganaidd ac roedd y peli ffres, ysgafn a gwlanog hyn yn boblogaidd tu hwnt. Ers hynny, maent wedi bod ar y fwydlen yn rheolaidd, ac mae un o’n cwsmeriaid rheolaidd, Susanne, yn falch iawn o hynny! Gallai hi eu bwyta bob dydd – a choeliwch chi fyth, mae hi yn dod bob dydd!

Mae’n siŵr mai cennin tri chornel yw un o’m hoff bethau i fforio, ac roedd penderfynu eplesu peth o’r hyn yr oeddwn wedi dod o hyd iddo yn un o’r llwyddiannau blas gorau erioed. Ar ôl cael ei eplesu, mae ei flas garlleg a nionyn yn meddalu, ac mae’r canlyniad yn debyg i asbaragws, ond gyda blas llawn umami. Gallwch ychwanegu hyn i saladau, brechdanau neu ei gymysgu i besto neu ddip. A chofiwch gadw’r heli, gan ei fod yn ychwanegu blas i unrhyw beth, gan gynnwys cawl.

Rhowch y cennin a’r dail llawryf yn dynn i mewn i’r jar. Torrwch y coesynnau os oes angen i sicrhau bod 4-5cm o le uwchben y cennin a phen y jar.

Nesaf, crëwch eich heli drwy hydoddi’r halen mewn digon o ddŵr berwedig a rhowch ddŵr oer wedi’i hidlo ar ei ben nes bod 1.25L yn y cynhwysydd.

Tywalltwch yr heli dros y cennin ar ôl iddo oeri ychydig, gan wneud yn siŵr eu bod wedi gorchuddio’n llwyr. Os oes angen rhagor o heli arnoch, defnyddiwch ddeilen fresych i orchuddio’r llysiau, neu bwysau eplesu i sicrhau bod y cennin wedi’u gorchuddio’n llwyr gan yr heli. Caewch y jar(iau).

Gadewch y cennin i eplesu am 2-3 wythnos. Bydd yr heli’n mynd yn gymylog ac yn befriog wrth i’r llysiau eplesu, ond peidiwch â phoeni, bydd yn clirio. Sicrhewch eich bod yn eplesu i ffwrdd o olau’r haul, ac yn rhywle sydd â thymheredd cyson o 20-22C.  

Pan fydd y cennin yn barod i’w bwyta, rhowch mewn jariau llai i’w storio (yn ogystal ag ychydig o’r heli i’w gorchuddio) yn yr oergell a bwytewch nhw o fewn 4-6 wythnos, ond byddant yn para’n hirach os ydych yn eu cadw’n oer a heb eu hagor.

0
Your basket