Rholion Selsig Perffaith Elly Kemp - Halen Môn

Rholion Selsig Perffaith Elly Kemp

by | Maw 24, 2021

INGREDIENTS

AR GYFER 8 (neu 16 o rai bach)

 

  • 500g cig selsig porc maes / organig
  • 1 afal mawr, wedi’i blicio a’i gratio
  • 1 llwy de o fwstard dijon mwg Halen Môn
  • 1 llwy de o garam masala
  • 2 sbrigyn o saets, a’r dail wedi’u torri
  • Halen môr pur
  • Pupur du
  • 320g o grwst pwff wedi’i wneud ymlaen llaw
  • 1 wy maes, wedi’i guro
  • 1 llwy fwrdd o hadau nigella

    I WEINI

  • Sos Coch Bloody Mary

Cynheswch y popty i 220C/ffan 200C/nwy 7 a leiniwch hambwrdd pobi mawr gyda phapur pobi.

Ar gyfer y llenwad, cymysgwch y porc, afal, mwstard, garam masala a’r dail saets. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o ddŵr, rhowch halen a phupur a chymysgwch i’w cyfuno. 

Tynnwch y crwst o’r oergell a’i roi ar arwyneb gydag ychydig o flawd arno. Rholiwch y crwst i betrayal mawr, tua 1cm o drwch. Torrwch y crwst ar ei hyd fel bod gennych ddau stribed siâp petryal. 

Cymerwch hanner y cymysgedd selsig yn eich dwylo a’i siapio’n selsig mawr, rhowch yng nghanol y stribed cyntaf o grwst. Sicrhewch fod y cymysgedd yn wastad, fel bod gennych rholion selsig llawn ar y diwedd. Brwsiwch yr wy ar ochr hir y crwst cyn plygu’r crwst dros y cig selsig, defnyddiwch fforc i gau’r crwst. 

Gwnewch yr un peth gyda’r cig selsig sydd ar ôl ar weddill y crwst. Yn dibynnu ar dymheredd yr ystafell, efallai y bydd angen i chi oeri’r rholion selsig cyn eu torri, oherwydd bydd hyn yn anodd os yw’r crwst yn rhy boeth. 

Defnyddiwch gyllell ddanheddog i sleisio 4 rholyn allan o bob selsig hir. Rhowch nhw ar yr hambwrdd pobi, brwsiwch yr wy ar ben pob rholyn selsig a thaenwch ychydig o hadau nigella arnynt. Cymerwch gip ar y rholion selsig ar ôl 15 munud ac ychwanegwch yr wy sydd ar ôl. Pobwch am 20-30 munud arall nes eu bod yn frown euraidd.

Gorau po gyntaf y byddwch yn eu bwyta ar ôl pobi, ond gallwch eu cadw mewn cynhwysydd gyda chaead yn yr oergell am 2 ddiwrnod.

LLUN A RYSAIT: Elly Kemp 

0
Your basket