Pysgod Paprica Myglyd - Halen Môn

Pysgod Paprica Myglyd

by | Maw 13, 2018

2 lwy fawr olew olewydd

  • 1 x winwnsyn, wedi’i sleisio’n fân
  • 1 x pupur, wedi’i sleisio’n fân
  • 3 x clofsen arlleg fawr, wedi’u
  • sleisio’n fân
  • 4 x tomato maint canolig, wedi’u
  • torri’n fras
  • 1 x chilli coch
  • 160g corgimychiaid brenin
  • cynaliadwy
  • Croen a sudd
  • 1/2oren
  • 5 piped Dŵr Mwg Halen Môn
  • Pinsiad da o  Halen Môn Mwg
  • 3/4 llwy de Paprica Melys
  • 2 lwy fawr persli ffres, wedi’i dorri’n fras

Menyn Mwg Cartref

  • 300ml Hufen Dwbl
  • 1 llwy de  Halen Môn Mwg
  • ynghyd â rhagor i’w daenellu
  • Bara Crystiog i weini

Mae seren ‘Great British Bake-Off’ Beca Lyne-Pirkis, wedi bod yn gweithio gyda Smart Energy GB i wneud prydau blasus, syml sy’n defnyddio llai o ynni yn y gegin. Mae mesuryddion clyfar yn gwneud yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio yn weladwy, ac yn dangos i ni mewn punnoedd a cheiniogau cost ein coginio.

Mae’r pryd corgimwch yn syml, blasus ac yn gyflym. Er mwyn arbed ynni, torrwch y pupur, winwns mor denau â phosib. Mae lleihau amser coginio yn golygu y byddwch yn eistedd i lawr i’ch swper yn gynharach, yn ogystal ag arbed ynni ac arian.

Dechreuwch trwy wneud y menyn Rhowch yr hufen mewn powlen maint canolig a chwyrliwch yr hufen gyda chwisg trydan hyd nes iddo dewhau a rhannu. Trosglwyddwch y cymysgedd i ridyll ac o dan lif o ddŵr oer, gwasgwch y menyn hyd nes iddo fynd yn llyfn a ffurfio pêl. Ychwanegwch yr halen môr mwg a thylinwch ychydig yn eich dwylo cyn ei rolio mewn papur gwrthsaim a’i roi yn yr oergell i setio. 2.Ar gyfer y corgimychiaid, sleisiwch y winwns, pupurau, garlleg a chilli mor fân â phosib. Rhowch yr olew, pupurau, winwns a phinsiad o halen môr mwg mewn padell maint canolig dros wres cymedrol. Coginiwch, gan droi o bryd i’w gilydd am 3-5 munud hyd nes bod y llysiau’n feddal. Torrwch y tomatos yn fras ac ychwanegwch nhw at y badell ynghyd â’r garlleg a chilli. Coginiwch am 2 funud bellach, gan ychwanegu diferyn o ddŵr os yw’r badell yn dechrau edrych yn sych.

Nesaf, ychwanegwch y corgimychiaid a phaprica a choginiwch am 3 munud bellach, gan droi’r corgimychiaid hanner ffordd trwodd. Yn olaf, ychwanegwch groen yr oren, y dŵr mwg, 3/4 o’r persli a gwiriwch y sesnin, gan ychwanegu mwy o halen môr mwg os oes angen. Gweinwch ar unwaith gyda’r persli sy’n weddill wedi’i daenellu drosto, gyda bara crystiog a’r saws mwg cartref ar yr ochr ar gyfer y saws mwg coch lliwgar.

0
Your basket