Y llynedd, rhoddwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn bedwerydd yn y byd i ymweld yn 2017 gan y Lonely Planet gan ein hysbrydoli ni i ddewis dim ond llond llaw o’r nifer o resymau pam y dylech ei wneud yn gyrchfan gwyliau eleni.

BOUNCE BELOW, Blaenau Ffestiniog
Atyniad unigryw sy’n cynnig cyfres o drampolinau syfrdanol wedi’u gosod yn ddwfn tu mewn i hen chwarel lechi, mewn ogof yr un maint ag eglwys gadeiriol. Mae’r gwaith adnewyddu diweddar wedi ychwanegu pedair sleid ddiwydiannol newydd gydag uchder o ddau fws deulawr. Syniad hynod arloesol sy’n anadlu bywyd newydd i safle gwirioneddol hanesyddol.

YNYS LLANDDWYN + TRAETH NIWBWRCH
Mae’r traeth yn enwog am reswm. Yn gartref i nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, lleoliad ar gyfer ffilm gyffrous a rhamantus Demi Moore -Half Light, a lle da ni wedi mynd am dro ar ddiwrnod Nadolig cerdded bob blwyddyn ers 1989. Mae’r gan y traeth yma’r cyfan – cefndir mynyddig godidog, coedwig drwchus, môr llydan agored, ac ynys unig le gallwch hyd yn oed yn gweld ambell i forlo.

PORTMEIRION
Lleoliad ar gyfer The Prisoner, ac yn fwy diweddar, cartref i Ŵyl Rhif 6, mae’r pentref Eidalaidd yn wych ar gyfer ymweliad ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Arhoswch yn y gwesty yn y clogwyni, darganfyddwch mwy am y crochenwaith nodedig o’r un enw, neu rentu un o’r bythynnod gwyliau hunanarlwyo am seibiant i ffwrdd o’r byd go iawn.

GOLEUDY YNYS LAWD, CAERGYBI
Mae’r goleudy yn olau cyfeiriadedd gyfer llongau sy’n croesi Môr Iwerddon i ac o borthladdoedd Caergybi a Dun Laoghaire. Cerddwch y 400 grisiau troellog i lawr i’r ynys wrth i’r haul machlud i weld sioe o liwiau. Da ni’n argymell mynd a physgod a sglodion ac i wisgo gymaint o haenau ag sy’n bosibl.

HALEN MôN, Brynsiencyn
Mae’n siŵr y byddwch wedi dyfalu y gallem sôn am yr un yma. Da ni’n argymell ein taith unigryw y tu ôl i’r llenni i unrhyw un sydd â diddordeb mewn lle halen yn ein hanes, diwylliant, bwyd, ac yn yr hyn sy’n gwneud Halen Môn y gorau yn y byd.

0
Your basket