Mae’n eithaf prin i ni ysgrifennu am rywbeth ar ein blog nad yw’n amlwg yn gysylltiedig â Halen Môn, ac efallai bod hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y prosiect yma i ni.
Mae’r gair ‘cynaliadwy’ yn ein datganiad cenhadaeth ac mae cynaladwyedd yn gweithio pan fydd yn yng nghanol tair ardal enfawr – amgylchedd, yr economi, a strwythur cymdeithasol.
Fel sylfaenwyr Halen Môn a Sw Môr Môn, mae Alison a minnau yn hen gyfarwydd ag agweddau’r amgylcheddol ac economaidd o redeg busnes ffyniannus. Rydym wedi cyflogi tua 300 o wahanol bobl yn y 30 mlynedd diwethaf (a hyd yn oed rhai o’u plant!) Mae’r agwedd gymdeithasol yr un mor bwysig â’r ochr fusnes a’r amgylchedd naturiol, yn enwedig mewn ardal lle nad yw popeth yn rhy wych.
Mae gan Ynys Môn ardaloedd, i ddefnyddio’r jargon, ‘mynegeion lluosog o amddifadedd cymdeithasol’. Mae hynny’n golygu nad oes digon o swyddi, nid oes digon o gyfleoedd, mae gormod o bobl sydd wedi ymddeol yn prynu gormod o dai, mae rhai ardaloedd yn cael eu dominyddu gan ail gartrefi, ac mae rhai o’r plant mwyaf disglair o Ynys Môn yn gadael ac nid ydynt yn dod yn ôl . Mae materion o bwys ac mae’n rhaid i ni gamu ymlaen a gwneud rhywbeth – nid siarad am y peth neu ddweud mai cyfrifoldeb rhywun arall yw’r problemau.
Felly yr ydym yn ceisio, gyda phethau syml – cyflogi 23 o bobl, prynu gan 37 o gyflenwyr Cymreig a chael polisïau cynaliadwyedd a adolygir yn rheolaidd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaethau, grwpiau a sefydliadau sy’n gadarnhaol a rhagweithiol ynglŷn â newid. O Menter Môn i Gorau Môn, rydym yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl.
Grŵp bach sy’n gwneud gwaith aruthrol o bwysig yw grŵp Llyn Parc Mawr. Maent yn ceisio ail-gysylltu pentrefi a phobl gyda choedwigoedd lleol, er mwyn ddefnyddio’r hyn sydd ganddynt ar garreg eu drws i wneud bywoliaeth mewn ardaloedd lle mae swyddi wedi diflannu. Yn Llyn Parc Mawr, mae 50 erw o fywyd gwyllt gwych (gan gynnwys y wiwer goch hardd, diolch yn fawr am eich llun, Peter) ac eto nid yw’r ardal honno mor ffyniannus yn economaidd na’n gymdeithasol a rhannau eraill o Gymru. Roedd swyddi coedwigaeth yno unwaith ac mi allai fod eto. Gall bod cyfleoedd newydd i unrhyw un i ddysgu sgiliau newydd a’u defnyddio.
Rydym yn helpu gydag amser, offer, gofod i gynnal cyfarfodydd a rhoi mynediad i’n gyfleusterau a rhwydweithiau. Mae nifer o bobl eraill yn helpu hefyd, ac fe allwch chi, darllenwr fod yn un ohonyn nhw.
Mae’r grŵp wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer £12,500 gan Gronfa Ynni Marks & Spencer ac, fod yn blwmp ac yn blaen, mae angen eich pleidlais. Gyda’r wobr, gallai’r grŵp ychwanegu paneli solar, llosgwyr coed a gwneuthurwr golosg, a dechrau ar y broses gynllunio i droi eu pencadlys dros dro – ar hyn o bryd mewn hen gynhwysydd llongau – i mewn i weithdy coedwig sy’n wirioneddol o fudd i’r gymuned.
Rydym wedi gwneud fideo yn dweud ychydig mwy am y grŵp a pham y gallai arian hwn wneud gwahaniaeth mawr.
Os gwelwch yn dda pleidleisiwch ar wefan Marks & Spencer, mae gwir angen eich help. Diolch
Pleidleisiwch dros Llyn Parc Mawr yma –
Gwyliwch fideo ar wefan Llyn Parc Mawr