Pizzas unigol, sydd yn hyfryd o grisp oherwydd yr Heli Pur Cryf da ni’n sblasho dros y toes. Mwynhewch nhw ar noson gynnes gyda gwydr oer o win.

Ar gyfer toes y pizza:
500g blawd bara gwyn cryf
1 Pecyn 7g o furum sy’n gweithio’n gyflym
1 llwy de siwgr man
4 llwy fwrdd olew olewydd
1 llwy fwrdd Heli Pur Cryf neu ½ llwy de o Halen Môn

Ar gyfer y saws tomato:
1 llwy fwrdd o olew olewydd
3 ewin garlleg, wedi’i sleisio’n fân
1 tin o domatos wedi’u torri’n fân
½ llwy de siwgr
½ llwy de o Heli Pur Cryf neu binsiad o Halen Môn
Pinsiad o bupur du
Tusw bach o fasil, (cadwch lond llaw o ddail at y diwedd)

Ac i orffen:
2 x pêl 125g o mozzarella buffalo
1 tsili coch, wedi’i sleisio’n fân
½ jar calonnau artisiog, wedi’u draenio

Dechreuwch trwy wneud y toes. Hidlwch y blawd ar i wyneb gwaith glân a gwnewch bant dda yn y canol. Mewn jwg, cymysgwch 325ml o ddŵr cynnes gyda’r siwgr, burum a’r olew a’i rhoi ar un ochr am ychydig funudau i weithredu’r burum.

Tolltwch y dŵr i mewn i’r pant a defnyddiwch fforc i dynnu’r blawd oddi wrth yr ochrau, gan ddod â mwy o flawd at y canol yna dewch â’r toes gyda’i gilydd mewn pêl. Gweithiwch y toes ar eich wyneb gwaith am tua 10 munud nes bod gennych does llyfn.

Rhowch mewn bowlen wedi’i orchuddio’n ysgafn gydag olew a gorchuddiwch â thywel te. Rhowch o’r neilltu i godi am oddeutu awr. Bydd y toes yn dyblu o ran maint.

Tra bod y toes yn codi, gwnewch y saws tomato trwy gynhesu’r olew olewydd mewn padell ffrio dros wres canolig. Ffriwch y garlleg wedi’i sleisio nes eu bod yn dechrau troi euraidd, yna tolltwch y tomatos a’u troi, ychwanegwch y siwgr a’r Heli Pur Cryf. Dewch at fudferwi, yna ychwanegwch y pupur du a hanner y dail basil a throi’r gwres i lawr yn isel. Coginiwch am hanner awr.

Cynheswch y popty i 240C, neu mor uchel ag y gall fynd. Rhowch dau hambwrdd pobi i gynhesu ar y silffoedd yn y popty ar yr un pryd.

Rhannwch y toes pizza i bedwar pêl gyfartal, a rholiwch bob un allan i tua 5mm o drwch. Lledaenwch lwy fwrdd o saws tomato arnynt gan adael centimedr a hanner o gwmpas yr ochrau. Torrwch y mozzarella bwffalo yn gyfartal dros ben y pizza, yna gwasgarwch yr artisiog, dail chili a basil.

Ysgeintiwch yr hambyrddau popty wedi’u cynhesu’n ysgafn â blawd a sleidiwch bob pizza arnynt (efallai y bydd angen i chi eu coginio mewn dwy sarn). Yn ofalus, chwistrellwch y pizza gyda mwy o heli yn y ffwrn, yna coginio am 6-8 munud nes ei fod yn euraidd.

LLUN: Jess Lea-Wilson
RYSÁIT: Anna Shepherd

0
Your basket