Y penwythnos hwn, rydym yn edrych ymlaen at groesawu Hilary o The Rustic Gourmet i Tŷ Halen. Bydd hi’n coginio a gwerthu ei pizzas enwog yn ogystal â’n cregyn gleision lleol a chawl pysgod Ynys Môn.
Bydd y ffwrn yn mynd o 11.30 tan 3.30pm ar ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Mawrth 26 a 27. Galwch heibio am ginio a loetran yn ein siop arfordirol gyfoes. Bydd gasebos os nad yw’r tywydd ar ein ochr ni!