Hyfryd gyda chaws, pysgod mwg, charcuterie neu gamwn. Roedd y rysáit hon wedi ymddangos yn wreiddiol yn The Telegraph Magazine.
Digon i un jar mawr
3 bwlb ffenigl bach wedi’u trimio, gan dynnu unrhyw ddail allanol sydd wedi newid lliw
2 lwy fwrdd o Halen Môn Pur mewn fflochiau mân
500ml finegr reis
80g siwgr caster
8 deilen bae
1 llwy fwrdd pupur du
croen 4 lemon
Golchwch y bylbiau ffenigl a’u torri yn eu hanner a’u daflu’r galon. Torrwch mor denau â phosib. Mewn powlen fawr, gwasgarwch y ffenigl gyda halen a’i greinsio gyda’ch dwylo. Rhowch i’r neilltu am awr i dynnu’r dŵr allan.
Cynheswch y finegr, siwgr a dail bae mewn padell dros wres canolig nes bod y siwgr wedi toddi. Pan fydd yr awr wedi dod i ben, trowch y ffenigl i mewn i golandr a draeniwch gymaint o’r hylif â phosib.
Rhowch y ffenigl yn ôl yn y bowlen ac ychwanegwch y puprennau, croen lemwn, dail bae a’r finegr a’i droi. Llenwch jar lân gyda’r ffenigl. Arllwyswch y finegr drosto gan ddefnyddio carn llwy bren i’w weithio i lawr i’r ffenigl.
Sgriwiwch y clawr i lawr a gadewch am 24 awr cyn bwyta. Bydd hyn yn cadw am 2-3 wythnos yn yr oergell.
Delweddau: Liz + Max
Rysáit: Alison Lea-Wilson