Pice ar y Maen olewydd gwyrdd a pherlysiau - Halen Môn

Pice ar y Maen olewydd gwyrdd a pherlysiau

by | Maw 18, 2021

INGREDIENTS

AR GYFER 4 O BOBL
(CREU 12 O BICE AR Y MAEN BYCHAIN)

 

  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd
    cenhinen fach, wedi’i golchi, neu lond llaw o shibwns, wedi’u sleisio’n fân

  • 200g o flawd plaen neu sbelt gwyn, ac ychydig mwy ar gyfer gorchuddio

  • 1 llwy de o soda pobi

  • 100g o fenyn oer heb halen, neu fenyn feganaidd, mewn ciwbiau

  • 50g o olewydd gwyrdd, heb hadau, ac wedi’u torri’n fras

  • 2 lwy fwrdd o gaprau bychain, wedi’u draenio

  • llond llaw bychan o ddil, a’r dail wedi’u torri’n fras

  • llond llaw bychan o bersli, a’r dail wedi’u torri’n fras

  • 80g caws Cheddar neu gaws steil-Cheddar feganaidd (dewisol), wedi’i gratio

  • 1 wy organig, wedi’i guro, neu

  • 3 llwy fwrdd o iogwrt soi

  • 2 lwy fwrdd o laeth o’ch dewis chi

    AR GYFER GWEINI

  • siytni tomato, wedi’i brynu mewn siop dail gyda dresin lemwn (dewisol)

  • mwy o gaws Cheddar (dewisol)

Roeddem yn teimlo’n gyffrous iawn cael gafael ar lyfr newydd Anna Jones y mis hwn. Mae Brenhines y Llysiau yn rhannu dros 150 o ryseitiau law yn llaw â llu o syniadau am brydau un-badell, un-hambwrdd pobi cyflym iawn. Mae llawer o erthyglau diddorol yn y llyfr hefyd, yn ymchwilio rhai o’r materion mwyaf y mae ein planed yn eu hwynebu heddiw, a beth allwn ni ei wneud i helpu ar lefel ymarferol ddwys.
Rydym yn falch iawn ei bod wedi rhannu rysáit ardderchog ar gyfer pice ar y maen fan hyn – ni fyddwn yn edrych ar y clasur Cymreig hwn yn yr un ffordd fyth eto!

Cefais fy magu’n bwyta Pice ar y Maen. Mae fy nhad yn dod o deulu Cymraeg enfawr (11 o frodyr a chwiorydd), felly roedd Pice ar y Maen ar y fwydlen yn gyson, ac maent yn ffefryn fy nhad hyd heddiw. ‘Dw i’n coginio’r rhai traddodiadol gyda rhesins yn aml, ond ‘dw i wedi bod yn bwriadu rhoi cynnig ar fersiwn sawrus ers blynyddoedd, a dyma fi’n cael cyfle o’r diwedd. Y fersiwn olewydd gwyrdd a chaprau hon yw fy ffefryn; mae’r pice’n dod at ei gilydd mor gyflym â chrempogau, ond maent yn llawer mwy blasus. Ychwanegwch ychydig o siytni a salad bach, ac maent yn swper hawdd gwych.

Cynheswch yr olew mewn padell ffrio gwrthlud 25cm ac ychwanegwch y cennin a’r shibwns gydag ychydig o halen. Coginiwch nhw dros wres canolig-isel am 8 munud nes y byddant yn feddal ac yn dryloyw. Rhowch y shibwns neu’r cennin mewn powlen gymysgu. Sychwch y badell gyda phapur cegin a symudwch hi o’r gwres.
Hidlwch y blawd a’r soda pobi i mewn i’r bowlen gyda’r shibwns. Defnyddiwch eich dwylo i rwbio’r menyn i mewn nes bod y cymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch yr olewydd, caprau, perlysiau a chaws (os ydych yn ei ddefnyddio) i’r bowlen. Rhowch ddigon o bupur a halen a chymysgwch nes y byddant oll wedi cyfuno. Ychwanegwch ragor o halen os nad ydych yn defnyddio caws.

Ychwanegwch yr wy neu’r iogwrt ac ychydig o laeth, os oes angen, er mwyn creu toes – bydd angen i chi allu rholio’r toes, neu ei siapio gyda’ch dwylo, felly peidiwch â gadael iddo fynd yn rhy ludiog.

Rhowch ychydig o flawd ar arwyneb gweithio glân a rholiwch y toes nes ei fod 1.5cm o drwch neu defnyddiwch eich dwylo i wneud peli maint pêl golff a’u pwyso i lawr. Defnyddiwch dorrwr 5cm crwn i dorri 12 o gylchoedd bychan, gan gasglu’r toes ychwanegol a’i roi at ei gilydd nes bod yr holl does wedi cael ei ddefnyddio.
Cynheswch y badell ffrio dros wres isel-canolig a choginiwch y Pice ar y Maen yn y badell sych bedwar ar y tro. Dylai hyn roi digon o le i chi droi’r cacenni a sicrhau y byddant yn coginio’n gyfartal. Coginiwch am 6-8 munud ar bob ochr, nes eu bod yn euraidd ond heb losgi.

Gweinwch nhw yn gynnes, gyda siytni tomato ac ychydig o ddail mewn dresin lemwn, ac ychwanegwch ragor o gaws os hoffech chi wneud hynny.

Cynheswch yr olew mewn padell ffrio gwrthlud 25cm ac ychwanegwch y cennin a’r shibwns gydag ychydig o halen. 

 

IMAGE: Issy Croker

RECIPE: Anna Jones from One

0
Your basket