Pastai bicnic Winwns wedi’u Carameleiddio a Llysiau Gwyrdd
INGREDIENTS
Digon i 6
Ar gyfer y crwst
125g o fenyn oer wedi’i halltu (neu 125g o fenyn heb ei halltu a ½ llond llwy de o halen môr), yn ogystal â rhagor ar gyfer iro
250g o flawd 00
4 llond llwy fwrdd o ddŵr rhewllyd
Ar gyfer y llenwad
50g o fenyn wedi’i halltu (neu 50g o fenyn heb ei halltu a ¼ llond llwy de o halen môr)
¼ llond llwy de o halen môr pur mân Halen Môn
4 winwnsyn, wedi’u torri’n dafelli mân
3 wy
150ml o hufen dwbl
2 lond llwy fwrdd orlawn o crème fraîche braster llawn
1 llond llwy fwrdd orlawn o fwstard Dijon
50G o parmesan, wedi’i ratio
100G o fresych deiliog (cêl), â’r coesynnau caled wedi’u tynnu
Dail o bentwr bach o bersli, wedi’u torri’n fras
2 lond llwy fwrdd o gaprys mewn dŵr hallt, wedi’u draenio
Llond llaw o ddail basil
Mae’r rysáit hon yn un o dair rydyn ni’n eu cyhoeddi i ddathlu cyflwyno menyn Cymreig hyfryd newydd Castle Dairies, sydd wedi’i wneud â halen môr pur bendigedig Halen Môn. Moethus, hufennog a blasus tu hwnt.
Mae’r bastai hon yn teithio’n arbennig o dda, felly mae’n anhygoel fel rhan o wledd picnic. Gyda chrwst briwsionllyd â blas menyn yn cynnwys winwns melys a llysiau gwyrdd llawn mwynau, mae’n fendigedig yn weddol gynnes neu ar dymheredd ystafell. Rhowch gynnig arni gyda’n relish gercinau i fynd i’r lefel nesaf.
.
Dechreuwch trwy baratoi’r crwst. Torrwch y menyn yn giwbiau a churwch y menyn a’r blawd (a’r halen os ydych yn ei ychwanegu) gyda’i gilydd mewn prosesydd bwyd nes bydd y gymysgedd yn debyg i friwsion bara. Tywalltwch y dŵr i mewn, un llond llwy fwrdd ar y tro, gan guro’r gymysgedd rhwng pob llwyaid Tynnwch y caead a phinsiwch y toes at ei gilydd rhwng eich bysedd. Dylai fod yn friwsionllyd o hyd, ond dylai gydio at ei gilydd. Os nad yw’n cydio, ychwanegwch lond llwy de arall o ddŵr a’i guro eto nes y bydd yn cydio. Trosglwyddwch y toes i arwyneb gwaith glân a dewch â’r cyfan ynghyd gyda dwylo glân. Ffurfiwch siâp disg a lapiwch y toes yn dynn mewn cling-ffilm. Rhowch hwn yn yr oergell i oeri am 45 munud.
Yn y cyfamser, coginiwch y winwns. Toddwch y menyn mewn padell ffrio ddofn fawr (28cm) nes bydd yn dechrau hisian, yna ychwanegwch y winwns a’r halen a throwch y cyfan i’w cyfuno. Coginiwch y cyfan dros wres canolig, gan roi tro iddynt yn rheolaidd, nes bydd y winwns yn lled dryloyw, tua 10 munud. Trowch y gwres i lawr i wres isel a’u coginio ymhellach am 25-30 munud arall, nes bydd y winwns yn felyngoch, yn sgleiniog ac yn felys. Tynnwch y badell o’r gwres.
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C. Irwch dun tarten sydd â gwaelod rhydd yn ysgafn gyda menyn a leiniwch y gwaelod gyda phapur pobi. Tynnwch y toes sydd wedi oeri o’r oergell a defnyddiwch y tyllau mwyaf mewn gratiwr pedair-ochr i gratio’r toes i mewn i ganol y tun, gan ei wasgu i mewn i waelod ac ochrau’r tun wrth i chi fynd yn eich blaen i ffurfio crwst pastai cyson. Mae’r toes yn friwsionllyd iawn (fydd yn rhoi crwst brau a chrimp wedi’i goginio), felly mae’n haws gwneud hyn na’i rolio gan ei fod yn tueddu i dorri.
Gorchuddiwch y toes â phapur pobi a llenwch y papur â ffa pobi. Pobwch hwn yn y popty am 15 munud, cyn tynnu’r ffa a’r papur pobi a pharhau i’w bobi am 12 munud i goginio’r sylfaen. Tynnwch y crwst o’r popty ond peidiwch â diffodd y popty.
Taenwch y winwns sydd wedi oeri ychydig dros y crwst. Curwch yr wyau, yr hufen, y crème fraîche a’r parmesan gyda’i gilydd mewn powlen gymysgu, rhowch orchudd dros y gymysgedd a’i gosod o’r neilltu. Golchwch y bresych deiliog, ac yna rhowch nhw i wywo mewn sosban fawr gyda chaead hyd nes iddynt feddalu, gan ddefnyddio dim ond y dŵr sy’n cydio yn y dail. Bydd y bresych deiliog yn barod pan fydd yn wyrdd llachar ac yn feddal. Rhedwch ddŵr oer drostynt, gwasgwch nhw i gael gwared ar gymaint o ddŵr ag y gallwch, yna torrwch nhw’n fras. Trowch y bresych deiliog sydd wedi’u torri i mewn i’r gymysgedd wyau a hufen gyda’r persli. Tywalltwch y cwstard gwyrdd dros y winwns a gwasgarwch y caprys drosto.
Pobwch y bastai yn y popty am 25-28 munud nes bydd y llenwad wedi setio. Gadewch i’r bastai oeri yn y tun am 15 munud, cyn ei thynnu allan a rhoi dail basil ar ei phen. Mae’r bastai ar ei gorau i’w bwyta ar y diwrnod y cafodd ei gwneud neu drannoeth, ond bydd yn cadw yn yr oergell a gellir ei chynhesu’n ysgafn am hyd at bedwar diwrnod ar ôl ei phobi.
Gweinwch gyda ffrwythau ffres a chaws fel rhan o wledd bicnic neu ginio awyr agored.