Panzanella Tomato Mwg Hafaidd - Halen Môn

Mae’r salad bara Tysgaidd clasurol yn cael ei weddnewid yma gyda llwy fwrdd o’n Dŵr Mwg yn marinadu’r tomatos am nodyn ysgafn. Dull syml a blasus o wneud y mwyaf o dymor tomato Prydain.

DIGON I 4
3 sleisen o fara surdoes, wedi’i rhwygo’n fras
4 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf
2 llwy de Halen Môn
500g o domatos cymysg ffres (cawsom rhai ni gan Gwmni Tomato Ynys Wyth)
1 llwy fwrdd o Ddŵr Mwg
50g o olewau kalamata tyllog
Pêl 125g o mozzarella byfflo, wedi’i rhwygo’n fras
Dail o dusw bach o fintys
1 llwy fwrdd o finegr balsamig o ansawdd da

Cynheswch y popty i 200c. Trowch a throswch y bara mewn tun rostio gyda’r olew olewydd a llwy fwrdd o halen. Rhowch yn y ffwrn boeth am 15 munud, ysgydwwch dwywaith yn ystod yr amser hwn tan ei fod yn euraidd a chrisp.

Yn y cyfamser, torrwch y tomatos mwyaf yn denau o gwmpas eu canol, hanerwch y rhai llai, a thorrwch y gweddill i mewn i letemau i greu cymysgedd diddorol o siapiau a meintiau. Trefnwch ar ddysgl ac arllwyswch y dŵr mwg drostynt, ysgeintiwch yr halen sy’n weddill dros y cyfan.

Trowch a throswch i gyfuno’r cyfan. Gadewch i’r blasau ddatblygu am 5 munud cyn cymysgu efo’r bara. Erbyn hyn, bydd yr halen wedi dechrau tynnu rhywfaint o’r sudd tomato i’r bara, a’i feddalu ychydig.

Cymysgwch yr olewydd, mozzarella a mintys (gan gadw ychydig o’r dail llai i’w haddurno) a thaenwch finegr balsamig dros y cyfan. Trowch y salad unwaith eto cyn ychwanegu’r mintys i’w haddurno.

RYSÁIT: Anna Shepherd
FIDEO: Jess Lea-Wilson
GOLYGU: Jake Lea-Wilson

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Products you might like
Calculate Shipping