Ddaru ni gyfarfod â Richard yn wreiddiol yn ystod ein ‘pop-up’ yn y farchnad wych ar Druid St yn Ne Llundain, sydd yn anffodus ddim yn bodoli mwyach. Roedd hi’n ddiwrnod hir, ac mae’n wir i ddweud doeddem ni ddim yn gwybod beth oeddem am wneud wrth i ni agor y bore hwnnw. Daeth Richard i’r adwy gan hefyd cadw ein boliau yn llawn gyda’r bara gorau da ni erioed wedi blasu.

Yn ystod Gŵyl Fwyd y Fenni eleni daethom ar ei draws eto tra roedd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’w lyfr newydd gydag un o’r cyd-awduron Eve Hemingway. Am lyfr  hynod brydferth, ddiddorol a’r gorau oll, yn cynnwys holl gyfrinachau bara gorau yn y dref. Mae Bread & Butter yn llythyr cariad i’r ddau gynnyrch gogoneddus, artisan hyn sydd wedi bod ar ein byrddau ers canrifoedd. Llongyfarchiadau i Richard, Grant ac Eve ar lyfr gwych.

Beth oedd eich swydd gyntaf? A’ch swydd gyntaf ym myd bwyd?
Dwi ddim yn falch o’m swydd gyntaf. Mewn gwirionedd, ma’ gen i gywilydd ohono. Nid oedd llawer o waith ar gael yn y pentref, ffermydd oed y cyflogwyr mwyaf ac mi nes i weithio ar fferm wyau. Nid ffarm lawn o gywion ieir hapus gyda digon o le ond y math ofnadwy gyda chewyll wedi’i stacio fel blychau mewn warws. Weles i ddim cyw iâr tan y drydedd flwyddyn o’n i yno, a phan wnes i, chymrodd o fawr o amser i mi adael. Diwydiant ffiaidd.
Fy swydd fwyd gyntaf oedd pan yn 25 oed ac fel KP yn Nhafarn y Charles Bradlaugh yn Northampton. Roeddwn wrth fy modd â bwyd ac roeddwn eisiau gweithio mewn cegin. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy synnu gan ba mor anodd oeddwn i’n ei chael. Dwi ddim yn meddwl fy mod erioed wedi gweithio’n galed iawn o’r blaen. Roedd y Chef Brett yn athro gwych. Dwi’n dal i goginio’i bwyd  heddiw. Ei chilli yw’r gorau i mi flasu erioed.

Beth yw eich cof bwyd cynharaf?
Rhaid dweud bara fy Nain! Roedd hi’n gwneud torthau gwenith cyflawn hyfryd. Dwi’n dal i gofio sut roedd yn blasu. Blas gwenith mawreddog gyda melysrwydd bach. Dwi’n cofio’r toes yn codi mewn powlen wedi’i orchuddio â thywel te wrth ymyl yr aga tra roedd cinio dydd Sul yn cael ei baratoi. Roedd rhywbeth bob amser yn eplesu wrth i fy Nhaid wneud gwin gydag unrhyw beth y gallai gael ei ddwylo arno. Plisg pys (gwin bwdin braf), pannas (da gyda chyw iâr), Mafon (dim ond da i yfed). Roeddent yn ffodus iawn i gael gardd a pherllan mor hardd a helaeth. Roeddwn wrth fy modd yn ymweld.

Be gawsoch i frecwast?
Wyau! Wyau bob amser!… Ar dost

Beth yw’r camddealltwriaeth fwyaf am fara?
Mae pobl yn meddwl bod bara yn eich llenwi, ac yn eich gwneud yn hwyrdrwm. Mae bara gwael yn gwneud i chi deimlo fel ‘na. Mae glwten yn anodd ei dreulio ac mae angen ei eplesu yn araf i’w dorri i lawr a gwneud y bara yn fwy maethlon. Gellir gwneud bara archfarchnad o’r dechrau i’r diwedd mewn 2 awr! Mae ein bara yn cymryd 36 awr i’w wneud! Mae unrhyw surdoes yn llawer haws i’w dreulio ac felly mae’n fwy ysgafn ar eich stumog. Rwy’n gwybod bod bwytawyr glân yn hoffi meddwl ei fod yn wenwyn, ond mae’n ddrwg gen i, mae angen i chi brynu bara gwell!

Beth yw’r cynhwysyn sy’n cael ei danddefnyddio mwyaf?
Nid dim ond dweud hyn wrth fod yn cŵl (Gill Meller / Jenny Linford, dwi’n edrych arnoch chi), ond mae’n bryd! Mae nifer o bobl ag obsesiwn ynglŷn â gwneud popeth yn gyflym (Jamie Oliver … Rwy’n dal i dy garu di), ond y blas a gewch chi o goginio prydau arbennig dros amser hir i mi yw’r profiad mwyaf rhyfeddol o wobrwyol. Byddwn i’n mynd mor bell i ddweud ei bod yn amhosib gwneud ragu da o dan 4 awr. Oes, amser … a sudd picl.

Beth yw eich trychineb cegin waethaf?
Nes i roi popty ar dân wrth goginio pwdin Swydd Efrog yn nhafarn Y Charles Bradlaugh yn Northampton. Ar fy Sul cyntaf ar ben fy hun. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn dân olew a rhois dwr drosto.

Pam wnaethoch chi sefydlu The Snapery?
Yn fyr, rwyf wrth fy modd efo bara. Rown i’n cyffroi bob tro o’n i’n gwneud toes. Sylweddolais fod toes gyda chynnwys mawr o wenith cyflawn yn arogli fel diwrnod glawog ar faes a gynaeafwyd. Rown i’n hoffi hynny oherwydd roeddem ni wedi ein hamgylchynu gan wenith lle’r cefais fy magu. Rown i’n hoff iawn o amser cynaeafu. Rwy’n dyn hiraethus, ac angerddol.

Wrth roi’r ddau yma at ei gilydd, mae’n ymddangos eich bod am roi’r gorau i bopeth i wneud yr hyn yr ydych yn ei garu. Yn fy mhrofiad i. Mae gen i un gofid: dim hyfforddiant. Unrhyw un sydd yno sydd am ddechrau unrhyw fusnes, mae hyfforddiant priodol yn allweddol.

Gyda be’ mae Halen Môn yn mynd orau?
Mae Halen Môn tsili a garlleg ar borc rhost yn chwythu’r meddwl!

Disgrifiwch Gymru mewn 5 gair.
Glawiog (amlwg), Cyfeillgar, Hanesyddol, Cerddorol, Bwyd.

Yr arogl gorau yn y byd?
Bara yn pobi. Dwi byth yn diflasu.

Beth sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng plât bwyd da ac un anhygoel?
Gallwch wneud bwyd da gyda sgiliau, ond mae cariad sy’n gwneud rhywbeth anhygoel.

DELWAU: Patricia Niven

0
Your basket