Daethom ar draws Jenny ar y tro pan oedd hi’n ymchwilio i’w llyfr diweddaraf,  The Missing Ingredient. 

Ysgrifennwyd wrth ddod ar draws gyfres o gynhwysion, cynhyrchwyr, cogyddion, siopwyr a chogyddion, gan archwilio popeth o’r cyfnod y mae siwgr yn cymryd i garameleiddio, neu’r dyddiau sydd eu hangen yn y broses o eplesu, i’r misoedd o aeddfedu araf a rhoi sylw agos i greu cheddar wych, neu’r blynyddoedd y mae eu hangen ar gyfer rhai gwinoedd i gyrraedd y brig, mae Jenny yn dangos dro ar ôl tro mai amser ei hun yw’r cynhwysyn anweledig.

O amynedd ac ymroddiad llawer o gynhyrchwyr bwyd mewn caeau a storfeydd o gwmpas y byd i’r adweithiau cyflym sy’n ofynnol gan unrhyw gogydd cartref, mae ei llyfr yn ein galluogi i ddeall yn well ein bywydau coginiol.

Yma, rydym yn sôn am sut mae halen môr yn dod i mewn oll, a beth sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng plât da o fwyd ac un anhygoel.

BE GAWSOCH I FRECWAST BORE ‘MA?
Wŷ wedi ei botsio a tost surdoes.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Roeddwn yn llyfrwerthwr i Hatchards. Roedd gweithio yn y fasnach lyfrau yn brofiad defnyddiol iawn ar gyfer darpar awdur.

BE ‘DA CHI’N BWYTA WEDI DIWRNOD HIR O WAITH?
Dwi’n ddigon ffodus i weithio o’r cartref, felly mae bwyd wrth law trwy’r amser.

Wrth goginio swper, rwy’n mwynhau yfed gwydraid o sieri fino chnoi ar almonau wedi’u rhostio neu ddarn bach o gaws da iawn, fel Stilton Colston Bassett neu Cheddar y teulu Montgomery.

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Rwyf wrth fy modd â blas yr halen, felly rwy’n cael fy nhynnu i ddweud ‘popeth’. Rwy’n credu ei fod yn arbennig o dda ar gig wedi’i grilio.

YN GRYNO, BETH YW EICH ATHRONIAETH BWYD?
Mae bwyd yn gyfareddol.

O BLE DDAETH YR YSBRYDOLIAETH AR GYFER EICH LLYFR?
Y man cychwyn ar gyfer yr ‘The Missing Ingredient’ oedd yr epiphani bod amser yn gynhwysyn, cynhwysyn anweledig yn y bwyd rydym yn ei dyfu, yn ei wneud a’i goginio. Wedi cael y syniad cychwynnol hwnnw, treuliais amser hir yn meddwl sut i strwythuro ac ysgrifennu llyfr ar bwnc mor anferth a chymhleth. Rhennir y llyfr yn adrannau amser, o Eiliadau hyd at Flynyddoedd. Yn yr adrannau hyn, ysgrifennais 70 o draethodau ar wahanol agweddau o amser a bwyd. Un llwybr pwysig yn y llyfr yw’r frwydr yn erbyn effeithiau amser ar ddirywiad gynhwysion – a beth a arweiniodd i ysgrifennu am halen, elfen gadwrol hanfodol, a Halen Môn.

BE OEDD Y PETH MWYAF SYFRDANOL I CHI DDARGANFOD YN YSTOD EICH GWAITH YMCHWIL?
Roedd y cofnodion bwyta cyflym yn fy syfrdanu. Bwyta saith deg o gŵn poeth o fewn 10 munud – rhyfeddol!

BETH YW’R OGLAU GORAU YN Y BYD?
I mi, un o’r rhai mwyaf dengar yw mango Alphonso aeddfed. Ma’ ond meddwl amdano yn tynnu dŵr i’m dannedd.

BETH YW’R GWAHANIAETH RHWNG PLÂT DA O FWYD AC UN ANHYGOEL?
Mae defnyddio cynhwysion da yn fan cychwyn pwysig, ond dwi’n meddwl mai’r gofal wrth goginio. Mae rhywun yn teimlo’r cariad a’r sylw sy’n mynd i mewn iddo.

0
Your basket