Panad gyda ... Ysgrifenwraig Bwyd Signe Johansen - Halen Môn

Mae gan ysgrifenwraig bwyd Sig (AKA Scandilicious), sydd yn enwog am ei byns sinamon a’i llyfrau coginio Sgandinafaidd ysblennydd, brwdfrydedd heintus am fwyd da. Cawsom ein cyflwyno ar Twitter yn hirach yn ôl nag ydym am gofio ac wedi bod yn ffrindiau bwyd ers hynny. Da ni’n cyfarfod bob blwyddyn yng Ngŵyl Fwyd y Fenni. Mae hi bob amser yn brysur gyda phrosiect blasus neu ddau, boed yn blasu pwdinau Nadolig ar gyfer papur newydd, neu yn teithio’r Alban yn i chwilio am y wisgi gorau. Mae ei instagram yn sicr o godi chwant bwyd arnoch.

Isod, mae hi’n dweud wrthym ba fwyty hi’n mynd iddi yn wythnosol, a pham y bydd hi bob amser yn cymryd menyn ar ei uwd.
Cinnamon_buns

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
O ddwy ochr fy nheulu – rhieni, neiniau a theidiau, pawb mewn gwirionedd. Roeddwn yn ffodus i dyfu i fyny mewn cartref lle roeddem yn eistedd i lawr ar gyfer prydau wedi’u coginio gartref bron bob nos. Mae bwyd yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o’n bywyd teuluol. Roedd yn help fod gan fy nain a thaid o Norwy fferm, wnaethom ni ddysgu cymaint am fwyd yno.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Y swydd gyntaf dwi’n ei gofio gwneud am arian oedd gwerthu mefus pan yn 10 oed.  Roedd fy nhaid Norwyaidd yn eithaf cyfrwys gan gael ei wyrion nid yn unig i ddewis yr aeron oedd yn tyfu ar eu fferm, ond hefyd i helpu preserfio’r aeron ac os oedd rhai dros ben – roeddem yn eu gwerthu i dwristiaid o’r Almaen oedd yn gyrru heibio’r fferm . Roedd yn help fy mod yn siarad ychydig o Almaeneg hefyd!

BE’ GAWSOCH I FRECWAST?
Heddiw? Fel mae’n digwydd, uwd o geirch Rude Health wedi’i goginio’n araf gyda hanner llaeth, hanner dŵr a phinsiad o’ch halen fanila ffantastig. Fel arfer dwi’n rhoi jam cartref ei ben neu er mwyn cael amrywiaeth, ryw fath o fenyn cnau, ac o bryd i’w gilydd dim ond menyn, mymryn o siwgr a sinamon. Gan fod bywyd yn fyr, ac mae’n bosib cewch eich taro gan fws, beth sy’n bod efo menyn ar eich uwd?

I BLE DA CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Dwi’n byw yn Llundain a dwi’n creadur o arferiad. Dwi’n tueddu mynd bron bob wythnos i Koya Bar ar gyfer nwdls udon, ychydig yn llai aml i’r Kanada-Ya ar gyfer Ramen, Atari-Ya ar gyfer swshi rhesymol, Kikuchi gyfer swshi mwy drud a phan fydd dad yn y dref: Roka gyfer swshi wirioneddol grand! Dwi wrth fy modd gyda bibimbap Corea yn Jinjuu, Soho, hefyd.

Mae Dishoom yn wych ar gyfer bwyd Indiaid a Holborn Dining Room, ar gyfer brecinio a chinio dydd Sul. Pizza surdoes yn Franco Manca, fy Trattoria lleol chwedlonol Ciao Bella ar gyfer sbageti. O bryd i’w gilydd dwi’n picio i  Fischer’s ar Stryd Fawr Marylebone am dipyn o “Gemütlichkeit” Almaenaidd gan ‘mod i’n caru eu Schnitzel cig llo ac maent yn gwneud strwdel ceirios gwych yn yr haf.

Os dwi’n teimlo’r awch am wurst dwi’n mynd i Herman ze German am bratwurstchen ac Andechs bier (roedd fy rhieni yn byw yn Munich am ddegawd a chefais fy ngeni yno. Dwi’n teimlo mai fy ngair llafar cyntaf oedd ‘wurst’). Fel arall, mae eistedd wrth y bar yn Le Caprice bob amser yn bleser hudolus. Mae Quo Vadis yn Soho yn ffefryn ar gyfer eu stêc onglet a gwasanaeth gwych. Mae Lyle’s yn wych, yn wir, dwi ddim yn mynd yno hanner digon aml – James Lowe yw un o’r cogyddion gorau yn y dref ac mae ei fwyd yn hollol flasus. Dwi’n addoli Hawksmoor ar gyfer eu cig eidion a choctels. Cyrchfan lleol mwy diweddar yw Noble Rot sy’n gweini gwinoedd rhagorol a bwyd blasus, mae’n digwydd bod yn fy ardal i sydd yn golygu fy mod i ddim yn gorfod  llusgo fy hun ar draws y ddinas!

Dwi wrth fy modd gyda’r Duck & Waffle, ond dwi’n dioddef o bendro ddifrifol sy’n golygu dwi ddim yn mynd yno mor aml ag y hoffwn (mae’n 40 llawr i fyny yn yr awyr. Mae’r lifft yn gwbl frawychus i berson sydd ag ofn uchder fel fi.) Roedd gen i le yn fy nghalon i goginio Henry Harris yn Racine, ac yn gobeithio ei fod am agor lle newydd yn fuan. Da ni angen ei choginio bwrgeisaidd Ffrengig yn y West End!

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Pob dim! Mae defnyddiau’r halwynau yn ddiddiwedd. Er fy mod i’n dal i ddisgwyl am yr halen wisgi, Alison (hwb hwb) 🙂

BETH YW EICH PLESER BWYD EUOG?
Dwi ddim yn credu mewn cysylltu bwyd gydag euogrwydd. Bwytewch yr hyn da chi’n hoffi a phopeth yn gymedrol – tydi platiad achlysurol o sglodion wedi’u coginio teirgwaith neu doesen cardamom wedi ffrio byth yn brifo neb. Yr unig adeg y byddwn i’n teimlo’n euog am fwyd bysau os i mi ddechrau bwyta mewn bwytai cadwyn gas neu le bwyd cyflym erchyll drwy’r amser, ond yna byddai gen i fwy o broblem i ymgodymu gyda – fel y ffaith fyddwn i yn amlwg wedi mynd o fy nghof!

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR
Prydferth, digynnwrf, cyfeillgar, melodig a chroesawgar. Dwi’n caru Cymru, a phob tro dwi’n ymadael – boed hynny o’r Fenni neu Halen Môn – dwi’n teimlo mor hapus ac wedi ymlacio.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Diar, dwi ddim yn gwybod. Ysgewyll? hufen salad? Quark? Mae pob cynhwysyn yn ymddangos yn ffasiynol ar ryw adeg, yr ateb yw dod o hyd i’r rai da chi’n hoffi a’u cymysgu i fyny ychydig. Dwi’n credu ein bod ni ddim yn defnyddio ddigon o licris, ond dwi’n addolwr licris …
Eggs

BE’ DA CHI’N BWYTA WEDI CYRRAEDD ADREF AR ÔL DIWRNOD HIR O WAITH?
Os dwi wedi cael fy amgylchynu gan fwyd trwy’r dydd neu wedi bod yn meddwl am fwyd ar gyfer gwaith y cwbl dwi eisiau gyda’r nos yw bwyd syml: ffa pob ar dost (da), wy neu ddau wedi ffrio mewn menyn, nwdls sbeislyd, penwaig ar dost garlleg gyda phersli a lemon, neu gawl syml. Tua unwaith y mis dwi’n treulio prynhawn dydd Sul yn coginio h.y.. gwneud llwyth o saws bolognese a’i rhewi fel y gallaf ei ddefnyddio fel sylfaen i chilli con carne, pastai datws stwnsh neu ei fwyta gyda sbageti. Ni ddylai coginio fod yn faich, a gydag ychydig o gynllunio o flaen llaw does ddim rhaid troi at cludfwyd a phrydau parod. Yn rhyfedd iawn os dwi wedi blino ac yn llwglyd ar ôl diwrnod hir dwi’n tueddu tuag at fwydydd brecwast sawrus. Heno dwi’n coginio swp o wyau shakshuka Ottolenghi o’i lyfr ‘Jerusalem’ – bwyd cysurus a hawdd i’w paratoi. Wyau: superfood go iawn. Gallwch chi ddim mynd o’i le gydag wyau.

BETH YW EICH HOFF LYFR COGINIO
Cwestiwn cwbl amhosib i’w hateb! Mae’n dibynnu ar fy awydd, y tymor ac ar ba gynhwysion sydd gen i yn y gegin. Dwi wrth fy modd gyda llyfrau coginio Diana Henry, Yotam Ottolenghi, Claudia Roden, Nigel Slater, Nigella, fy nghydweithiwr Fiona Beckett ac arddull awduron bwyd fel Tim Hayward, Maunika Gowardhan (aka @cookinacurry), a’r ryseitiau yn y ddau lyfr gan Honey & Co. Alla’i ddim dioddef llyfrau diet neu fwydydd “iach” gyda’u sothach diflas gydag un eithriad: Eat Right gan Nick Barnard. Mae’n llyfr coginio gwych sy’n anrhydeddu traddodiadau o preserfio ac eplesu. Dwi’n edrych ymlaen at weld llyfr cyntaf Elly Curshen (aka @pearcafe). Cogydd sy’n deall blas a gwead.
Ottolenghi

Dwi wrth fy modd gyda hen lyfrau coginio lle mae’r fethodoleg wedi crynhoi cymaint megis ‘coginiwch tan iddo fod wedi ei gwneud’. Adeg yna, roedd pobl jyst yn gwybod pan fo bwyd wedi ei goginio. Nid oedd angen cymaint o llaw-daliad fel yn llyfrau coginio modern

0
Your basket