Mae Ed Smith yn un o’r unigolion diddorol rheiny sydd wedi cael mwy nag un yrfa lwyddiannus iawn. Yn wreiddiol cyfreithiwr yn y ddinas ydoedd, dechreuodd blog bwyd er mwyn dianc o’i waith ac fel esgus i ysgrifennu am ei hoff fwytai. Nawr mae yn y sefyllfa ffodus wrth ennill bywoliaeth wrth ysgrifennu a choginio – boed hynny ar gyfer ei gwefan ei hun, The Guardian, The Independent on Sunday, neu ei lyfr cyntaf, On the Side.
Cawsom hyd i wefan Ed safle, Rocket + Squash, sawl blwyddyn yn ôl drwy Twitter, gwefan sy’n drysorfa o argymhellion, ryseitiau, darluniau hardd a hanesion blasus. Mae wedi dod yn arbennig o adnabyddus am ei ‘Supplemental’ – crynodeb o’r offrymau bwyd ym mhapurau’r penwythnos. Mae Ed yn galw On the Side yn ‘llyfr ffynonellau ar gyfer seigiau ysbrydoledig’ ac mae’n union hynny – gan symud cyfwydydd ‘rydym wedi anghofio i ganol y llwyfan a rhoi’r union fanylion sydd angen i wneud coginio mor hawdd â phosibl. Mae rhai cyfuniadau yn fwy anarferol, ond hefyd prydau syml wedi eu gwneud yn dda iawn. Meddyliwch am rosti datws melys a rhosmari, moron gyda menyn brown a chnau cyll, a hyd yn oed ratatouille mwg a wnaed gyda Dŵr Mwg Halen Môn.
Isod, rydym yn siarad charcuterie a tharagon, dau o ffefrynnau Ed, ac yma mae’n rhannu rysáit ar gyfer Tomatos Gwyrdd gyda Tsili ac Oregano o On the Side.
BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF? A’CH SWYDD GYNTAF MEWN BWYD? Cefais amryw o swyddi yn ystod gwyliau’r ysgol a’r brifysgol, dwi ddim yn gallu cofio pa un ddaeth yn gyntaf (‘roedd dim un yn hwyl arbennig nag yn gofiadwy). Ar ôl addysg bellach roeddwn yn gyfreithiwr corfforaethol – gyrfa nes i adael er mwyn ailhyfforddi fel cogydd. Wrth ailhyfforddi bûm yn gweithio mewn gwahanol geginau, pop-up Young Turks yn The Ten Bells oedd fy mhrofiad cyntaf mewn cegin broffesiynol.
BETH YW EICH COF BWYD CYNHARAF? Mwy na thebyg helpu Mam yn gwneud pwdinau a manion eraill ar gyfer cinio Dydd Sul. Sylweddolais os byddaf yn gwneud hynny, yna ar ôl cinio fy tri brawd arall fyddai ar ddyletswydd golchi llestri, tra gallwn i eistedd yn ôl ac ymlacio mewn coma bwyd.
BE GAWSOCH I FRECWAST BORE ‘MA? Tost surdoes gyda llwyth o fenyn, Marmite a mêl. Rhowch gynnig arni.
Y SAIG ‘DA CHI’N COGINIO MWYAF AML? Naill ai brocoli pennau porffor gydag olew olewydd da iawn a taragon. Neu salad ffenigl, lemwn a tharagon. (Ydw – dwi’n hoffi taragon).
BLE ‘DA CHI’N DOD O I HYD YSBRYDOLIAETH AR GYFER EICH COGINIO? Ym mhob man. Fy man cychwyn yn aml yw taith i’r siop lysiau, lle dwi’n cael fy ysbrydoli i goginio yn syml oherwydd y cyfoeth mawr o gynnyrch. ‘Dwi hefyd yn darllen nifero ryseitiau (mewn papurau newydd a llyfrau coginio), a ‘dwi’n hoffi Instagram fel ffynhonnell syniadau hefyd.
PA GYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF? Rwy’n amau y gellid defnyddio mwy ar finegr sieri – mae’n well o lawer mewn dresin salad na balsamic, ac mae ganddo flas mwy diddorol na finegr gwin coch neu wyn.
EICH TRYCHINEB CEGIN GWAETHAF HYD YN HYN? Gadael surop i leihau mewn padell llaeth hyfryd Le Creuset … ac anghofio amdano am bennod ddwbl o Game of Thrones.. Roeddwn i’n meddwl byddai bicarb, dŵr berwedig, amser ac ymdrech yn gallu cael gwared rhan fwyaf o bethau yn y pen draw. Ond yn y diwedd bu’n rhaid i mi brynu un arall (drud) i’m gydletywr.
BE ‘DA CHI’N BWYTA WEDI DIWRNOD HIR O WAITH? Os oes unrhyw coginio ar ôl ynof, yna cawl ramen neu carbonara cyflym (gan ychwanegu unrhyw beth gwyrdd sydd yn yr oergell). Os na, yna tost surdoes gyda cheddar aeddfed rhad a saws tsili melys. Fy mhleser euog.
GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU? Beth nad yw’n mynd yn dda gyda? Unrhyw beth wedi ei ffrio neu olosgi. Dwi hefyd wrth fy modd gyda Dŵr Mwg Halen Môn mewn dresin salad a sawsiau tomato.
DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR Ble dwi’n cerdded a meddwl.
BE SY’N GWNEUD GWAHANIAETH RHWNG PLÂT DA O FWYD AC UN ANHYGOEL? Mae angen i blât anhygoel fod yn fwy na chyfanswm ei rannau – er y dylai rhannau hynny hefyd fod yn wych. Gall camp cydran unigol fod oherwydd y modd mae’r cynhwysyn wedi’i goginio, er i mi mae’n fwy tebygol oherwydd ffynhonnell a ffresni cynhwysyn. Yn y pen draw, mae’n dibynnu ar y ffordd y mae’r cydrannau hynny a’u blasau, bod gweadau a lliwiau yn cyd-fynd, neu yn wir yn cyferbynnu, ond yna yn dod at ei gilydd.