Gwnaethom gyfarfod â Tom yn y ‘Do Lectures’ sawl blwyddyn yn ôl, ond mae’n teimlo fel ein bod yn ei adnabod yn am byth. Y pumed genhedlaeth o gogyddion, mae ganddo frwdfrydedd am surdoes ac mi roedd Alison yn y gegin yn pobi ei surdoes cyntaf cwta wythnos ar ôl ei gyfarfod. Pedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi bellach yn pobi un bob yn ail ddiwrnod.
Mae gan Tom (ac yn wir yr holl Herbertiaid) wir gariad at fywyd, bwyta a dyfalbarhad mae’n anodd peidio â’u caru ar unwaith.
Yma ‘da ni’n sgwrsio pob peth tân a blawd i ddathlu’r llyfr newydd gwych Tom Do Wild Baking, o ble mae’r lluniau hardd hyn yn dod.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Fy ngwaith cyntaf oedd rhoi jam mewn toesenni i lawr y grisiau o ble ces i’m magu, roeddwn yn bedair oed ac os gwnes i waith da, roeddwn i’n cael bwyta’r un olaf. Mae ein cartref i fyny’r grisiau yn awr yn ysgol goginio Hobbs House Bakery lle rwy’n dysgu yn aml.

BE GAWSOCH I FRECWAST?
Afalau o’r ardd wedi eu stiwio efo iogwrt a granola Anna. Blasus iawn ac mae gennym gilo neu fwy o afalau i fynd.

PA GYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Hen fara. Dewch bobl, ‘da ni’n taflu mwy o hyn i ffwrdd nag unrhyw beth arall. Gallwch lenwi cadeirlan St Paul bob mis gyda’r bara sy’n cael eu taflu yn y DU. Amser i weini Panzanella!

EICH TRYCHINEB GWAETHAF YN Y GEGIN?
Ddaru set arddangosiad fynd ar dân tra roeddwn yn coginio ar dân gwersyll, bu rhaid i bawb symud yn ôl tra cafodd y tân ei ddiffodd. Oh – y wefr a’r cywilydd.

BE DA’ CHI’N BWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADRE WEDI DIWRNOD (NEU NOSON) HIR O WAITH?
Bara crisp gyda digon o gaws, neu os yw’n hwyr iawn, sgwâr o siocled tywyll.

GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Ffocacia poeth efallai. Ac yn ôl y ddihareb Sbaeneg fynd, mae cusan heb fwstas fel ŵy heb halen. Felly, ar y cyfan mae’n rhaid cael ŵy wedi’i ledferwi.

SUT FYDDECH YN DISGRIFIO EICH ATHRONIAETH BWYD MEWN UN FRAWDDEG?
Iechyd Da

DWEDWCH WRTHYM AM ‘WILD BAKING’- O BLE DDAETH Y SYNIAD AM Y LLYFR?
‘Dwi wrth fy modd â thanau, yn enwedig tanau gwersyll. Mae pobi a choginio drostynt ac ynddynt yn rhywbeth dwi wedi bod yn gwneud ers blynyddoedd.
Mae unrhyw bryd o fwyd yn troi’n antur gofiadwy ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n anhygoel i rannu’r darlun hwn.

ETH YW’R AROGL ORAU YN Y BYD?
Mwg pren a dillad glân. Mae yna le yn ein tŷ ni lle rydych yn medru arogli’r ddau ar unwaith ar noson dda, a dyna ydy cartref i mi.

BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PLÂT O FWYD DA AC UN ANHYGOEL?
Y bobl ‘da chi’n rhannu â nhw ac wrth gwrs, phinsiad o Halen Môn. ‘Da ni wrth ein bodd gyda’ch pot halen bach – fy nghydymaith cyson. Diolch.
Delweddau gan Jody Daunton, o’r llyfr Do Wild Baking

0
Your basket