Rydym wedi croesawi ymwelwyr gwych yn Halen Môn dros y blynyddoedd, o The Hairy Bikers i Green & Blacks, Steffan Rhodri i Ade Edmonson. Efallai mai’r un mwyaf cyffrous hyd yn hyn, fodd bynnag, yw neb llai na drysor cenedlaethol, Syr Terry Wogan.

Yn fonheddwr gyda meddwl chwim yr oedd yn anrhydedd wirioneddol i ddangos iddo o gwmpas Tŷ Halen ar gyfer y rhaglen deledu Terry & Mason’s Great Food Trip.

Er ei fod yn brysur, ddaru ni lwyddo gofyn ein cwestiynau yn iddo neidio yn ôl i dacsi Mason i barhau ar eu taith …

PWY OEDD WEDI’CH DYSGU I GARU BWYD?
Fy Mam – roedd hi’n gogydd ofnadwy.

BE GAWSOCH I FRECWAST?
Croissant a choffi.

BLE RYDYCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Bwyty Michelin tair seren

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSION?
Michelin, Tair, Seren

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Garlleg

BETH EICH PLESER BWYD EUOG?
Bwyta Mango yn noeth

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN CHWE GAIR
Gwlad y gan a Bara Lawr

BETH YDYCH CHI’N BWYTA AR ÔL DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Coginio fy ngwraig

BETH YW EICH HOFF LYFR COGINIO?
Ryseitiau Helen Wogan

0
Your basket