Os da chi’n chwilio am rywbeth blasus a hardd, mae Neuadd Fwyd Harvey Nichols yn le da i ddechrau. Un rheswm mawr am hyn yw’r llygatgraff Kelly Molloy. Mae hi’n un o’n hoff wynebau yn y sioeau bwyd oherwydd bod ganddi bob amser argymhelliad newydd a sgwrs dda.
Yn y diweddaraf o’n cyfres ‘Panad gyda …’, rydym yn trafod pam nad ydy cael cogydd fel cariad mor dda ag y mae’n swnio a beth i’w fwyta pan fyddwch angen rhywbeth cyflym a blasus.

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Fy rhieni, wrth gwrs! Roedd dad wrth ei bodd yn dod â bwyd môr a bwydydd newydd i roi cynnig arnynt adref. Hefyd roedd cyn-gariad yn gogydd a ches i fy annog i fynd allan a rhoi cynnig ar bethau gwahanol, a llefydd newydd. Nid oedd yn coginio llawer adref, fodd bynnag, yn anffodus …

I BLE DA CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Dwi wrth fy modd yn mynd i lefydd newydd ac mae gen i restr fawr o lefydd yn Llundain i fynd iddo. Dwi wrth fy modd gyda’r naws anffurfiol sy’n digwydd – lot o rannu, lot o grilio, lot o flasau rhyngwladol. Fy ffefrynnau diweddar yw’r bwyty Siapaneaidd Kurobuta  (sydd newydd agor yn Harvey Nichols Knightsbridge) a Smoking Goat (Soho).

BETH YW’CH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Afocado, caws, coffi. Ond dydi coffi ddim yn gynhwysyn nac ydi? Ond mae’n hanfodol ac mewn gwirionedd yn gweithio’n dda iawn mewn cacen siocled neu bwdin, gan ei fod yn cyflwyno ychydig bach o chwerwder. Hefyd, halen, wrth gwrs!

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Afocado, tomatos, cyw iâr, wyau.

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Prydferth, naturiol, cyfeillgar, golygfeydd, awyr-agored.

BETH YW EICH PLESER BWYD EUOG?
Does gen i ddim dant melys, ond cacen fy mam-gu gyda streusel ar ei ben, neu sgons gyda jam a hufen. Ym mhob achos arall, caws. Lot o gaws.

BLE DA CHI’N MEDDWL MAE’R SIN BWYD MWYAF CYFFROES?
Dwi wrth fy modd gyda’r hyn mae Llundain yn gwneud ar hyn o bryd yn enwedig gyda bwyd stryd, cefnogaeth technegau, ond efo lot o flas, yr amrywiaeth – mae yna ormod o lefydd i drio! Hefyd, Brooklyn. Mae nifer o bethau cyffrous yn dod allan o Brooklyn ac yn enwedig Williamsburg ar hyn o bryd. Mae ganddynt arddull penodol sy’n unigryw, diddorol ac yn codi awch arna’i i ymweld.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Halen – dwi ddim yn gwybod pam fod defnyddio halen yn codi ofn ar bobl. Defnyddiwch halen o ansawdd da ac mae’r blas yn disgleirio trwyddo. Mae’n gwella’r blas.
Dwi hefyd yn ffan fawr o gynhwysion Siapaneaidd – yn enwedig miso, mirin, dashi … ma’ nhw mor syml i’w ddefnyddio, a gyda lot o effaith umami. Rydym yn cadw amrywiaeth ardderchog o gynhwysion coginio Siapaneaidd yn ein Marchnad Bwyd, gyda’r pastau miso gorau, gwymon, wasabi a the matcha (cynhwysyn a thanddefnyddir mewn coginio).

BE’ DA CHI’N BWYTA WEDI CYRRAEDD ADREF AR ÔL DIWRNOD HIR O WAITH?
Os dwi am rywbeth cyflym, blasus ac yn dda i mi, dwi’n gwneud fersiwn fy hun o ramen neu gawl miso. Stoc, miso, digon o lysiau, weithiau nwdls (ond yn aml heb), rhyw fath o brotein (mae corgimychiaid yn berffaith ar gyfer hyn, neu tofu) – weithiau rwy’n potsio wy yn y cawl. Weithiau, byddaf yn ei wneud yn fwy Fietnamaidd ac yn hytrach na miso dwi’n ychwanegu sinsir, tsili, cardamom a chlof yn ei lle, ac unrhyw berlysiau sydd gen i yn yr oergell. Y ddysgl un-pot cyflym perffaith.

BETH YW EICH HOFF LYFR COGINIO
Mae gen i LOT o lyfrau coginio gan eu bod yn gwneud darllen gwych. Dwi jyst angen eu defnyddio, yn hytrach na dwyn syniadau ac yn mynd oddi ar y piste a gwneud fersiwn fy hun. Mae pentwr o lyfrau coginio wrth ymyl  lle dwi’n eistedd, gan ein bod yn gwerthu detholiad o lyfrau coginio mewn safleoedd Harvey Nichols – yn amlach na pheidio ‘da ni’n llwyddo cael ychydig o lyfrau a lofnodwyd gan yr awduron hefyd.
Y  llyfr cyntaf a wnaeth i mi eistedd i fyny a meddwl, “wow, rydw i’n medru gwneud hyn” oedd Real Cooking. gan Nigel Slater. Hefyd mae gen i The Joy Of Cooking, sydd â bron iawn bob dim ynddo. Weithiau, da chi jyst eisiau gwybod sut i wneud cacen neu rysáit sylfaenol, nid fersiwn ffansi, ac mae hyn i gyd ynddo – mae’n cynnwys popeth y dylai gwneud, mae’n anferth! Dwi wedi defnyddio llyfrau coginio Bill Granger dros y blynyddoedd hefyd.

Lluniau: Kelly Molloy

0
Your basket