Pan oedd Michael a Mark gyda’i gilydd yn gyntaf, roedd Mark yn gweithio oriau hir a brecwast oedd yr unig bryd y byddent yn siŵr o’i rannu. Mae’n deg dweud bod yr hyn a ddechreuodd fel ffordd o fwynhau amser o ansawdd gyda’i gilydd wedi troi’n ffenomen ledled y byd, a nawr, ‘da ni, ynghyd â 750k o bobl eraill, yn edrych ymlaen at weld yr hyn y mae Michael yn coginio bob bore ar ei gyfrif instagram Symmetry Breakfast.

Er bod y ffotograffau bob amser yn brydferth, mae bwyd Michael yn mynd y tu hwnt i estheteg – mae’n flasus, wedi’i hymchwilio’n dda ac yn anhygoel o amrywiol. Gyda llyfr mewn sawl iaith o dan ei wregys a’i bresenoldeb cymdeithasol yn dal i dyfu, ‘da ni’n edrych ymlaen at yr hyn y mae’n ei wneud nesaf. Yma ‘da ni’n sgwrsio brechdanau sglodion a’r emosiynau sy’n ymwneud â bwyd.

BE’ GAWSOCH I FRECWAST BORE ‘MA
Nes i pannukakku, crempog wedi’i bobi o’r Ffindir sydd fel arfer yn frith o ffrwythau haf ffres.

BE’ DI HOFF FRECWAST MARK?
Pan nes i gyfarfod ag o, roeddem yn mynd allan am Wyau Benedict i frecwast bob penwythnos. Mae o hefyd yn hoffi hagelslag ar fara menyn, pryd Iseldireg o’r lle y daw.

PA GYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Rwy’n credu bod perlysiau wedi’u sychu wedi cael enw drwg ers blynyddoedd lawer, ‘da nhw ddim yn debyg i rai ffres wrth gwrs ond maen nhw’n ddefnyddiol i bethau fel marinadau. Mae mintys sych yn cynhesu lle mae mintys ffres yn oeri.

EICH TRYCHINEB GWAETHAF YN Y GEGIN?
Yn ôl pob tebyg pan oeddwn yn tua 9 mlwydd oed, roeddwn i’n coginio gyda’m chwaer. Roeddem yn gwneud pasta pob ac yn arbrofi mewn gwirionedd. ‘Sgen i ddim syniad ble roedd ein rhieni ond yn rhywsut aeth lot fawr o sinamon i mewn. Ddaru’r ddau ohonom ei fwyta yn hytrach na chyfaddef methiant.

EICH COF PLENTYNDOD CRYFA’ AM FWYD?
Cefais fy magu mewn siop sglodion Tsieineaidd yn Lerpwl, roedd fy nhad-cu o Shanghai ac roedd yn darparu ar gyfer y chwaeth leol, roedd yn coginio bwyd Tsieineaidd oedd at ddant Prydeinig. ‘Dwi’n cofio gweithio mewn un bwyty yn arbennig ar Finch Lane, Huyton bron bob dydd ar ôl ysgol nes i mi fod tua 15 oed. Gyda’m ddau frawd a chwaer, byddem yn helpu i gymryd cyflenwadau oddi ar lorïau. Y tatws, y ffrwythau ffres y selsig a’r pasteiod oedd y rhai mwyaf cofiadwy oherwydd bod y dynion yn ein hadnabod ni i gyd!

GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Sglodion neu fara menyn, cadwch e’n syml. NEU FRECHDAN SGLODION!

ETH YW’R AROGL ORAU YN Y BYD?
Cyw iâr Rotisserie, yn enwedig pan fydd ‘na datws ar y gwaelod fel yn Ffrainc.

UN TIP AR GYFER GWNEUD I’CH BWYD YN WYCH AR GAMERA?
Rhaid edrych yn wych ar y plât yn gyntaf! Mae rhoi gofal a sylw i rywbeth yn dangos yn aruthrol.

EICH GAN EICH CYFRIF ¾ MILIWN O DDILYNWYR – SUT GAFFO’CH CHI SUT LWYDDIANT?
Cysondeb ac ymchwil. ‘Dwi’n gwneud lot o ddarllen ac ymchwil ond yn anaml y caf ysbrydoliaeth o lyfrau coginio cyfoes a lle na alla’i ddod o hyd i bethau mewn llyfrau, dwi’n gofyn cwestiynau. Fyddech chi’n synnu beth allwch ddod o hyd i ar-lein os ‘da chi’n gofyn y cwestiwn cywir.

AC I ORFFEN, BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PLÂT O FWYD DA AC UN ANHYGOEL?
Mae’n ymwneud ag emosiwn. Mae’n dylanwadu’n uniongyrchol arnom pan ar ein gwyliau, amser a lle i gael bowlen o basta yn yr Eidal, noson gynnes haf lle mae’ch gwin oer yn blasu mor dda. Dewch â’r union ddysgl nôl adref a gallai deffro atgof, ond ni fydd yr un peth.

DELWEDDAU: Michael Zee o Symmetry Breakfast

0
Your basket