Yn dilyn ein cyfweliad gyda’r cogydd Tomos Parry, y nesaf yw Micah Carr-Hill, Ymgynghorydd Blas Llawrydd, sy’n gweithio i siocled Green & Black’s, ymhlith eraill. Fo yw’r dyn sy’n gyfrifol am flas y rhan fwyaf o fariau siocled y brand eiconig, o’u bar Halen Môr i’w Siocled Tywyll Lemon, sydd, ‘da ni’n sicr y byddwch yn cytuno, yn eithaf trawiadol. Bu hefyd yn gweithio ar siocled enwog Pump Street Bakers.

Fe wnaethom gyfarfod â Micha gyntaf pan ddaeth i ymweld â Phencadlys HM gyda Green & Black’s i ddathlu lansiad eu bar halen môr, ac rydym wedi aros mewn cysylltiad byth ers hynny – yn bennaf am ein bod yn cael ychydig o sgwariau o rywbeth anhygoel pryd bynnag y byddwn yn ei weld!

(Gyda llaw, mae cyfres newydd o fideos byr wedi’i rhyddhau i roi cyhoeddusrwydd i’r ystod newydd o fariau tenau Green & Black’s. Mae’r fideos yn cynnwys ein ffefrynnau’r chwiorydd Hemsley, Tom Kitchin, a neb llai na Michel Roux Jnr. Gwyliwch ar-lein yma.)

Yma rydym yn sgwrsio am bariau Snickers, cennin a Parmesan.

Micah_1

PWY A ADDYSGOCH CHI I GARU BWYD?
Roedd mam bob amser yn coginio prydau teuluol go iawn felly dyna le ddechreuodd y cyfan. Ar ôl i mi adael am y brifysgol, sylweddolais os oeddwn am fwyta’n dda roedd rhaid i mi ddysgu sut i goginio mwy na ‘mond y pethau sylfaenol. Taflais fy hun i mewn iddo (yn lle fy astudiaethau) a dysgais sut i goginio, gan ddefnyddio Llyfr Llysiau Jane Grigson.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Tra’n dal yn yr ysgol helpais mewn fferyllfa leol, sydd yn ateb diflas braidd. Fy swydd gyntaf yn y diwydiant bwyd a diod oedd gydag Oddbins yn y nawdegau cynnar. Roeddwn yno am ychydig o flynyddoedd gan ennill fy Niploma WSET (Ymddiriedolaeth Addysg Gwin & Gwirod). Roedd hyn yn arwyddocaol oherwydd sylweddolais fod gen i synnwyr blasu da.

BE GAWSOCH CHI I FRECWAST?
Bues i braidd yn farus bore ‘ma. Dwi’n gwneud bara surdoes fy hun ac yn tueddu pobi’r noson cynt er mwyn i mi gael torth ffres yn y bore. Mae’n broses dri diwrnod ac mae gen i un neu ddau ar y gweill trwy’r amser. Roedd tafell surdoes bore ‘ma wedi’i haddurno gydag wy wedi’i ffrio crensiog (gyda’r melynwy yn rhedeg, yn naturiol), wedi ei blasuso gyda Halen Môn, wrth gwrs. Ar yr ochr roedd un neu ddau o selsig brîd prin rhagorol Rupert yn uniongyrchol o foch Ffarm Wood ac i orffen ar flas melys, ces i hanner cacen Eccles o Pump Street Bakery, gellid dadlau ei bod ymysg y gorau yn y DU.

BLE RYDYCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Oherwydd bod gen i blant ifanc, dwi ddim yn cael y cyfle i fwyta allan cymaint ag yr oeddwn i neu yr hoffwn i. Felly, pan fyddaf yn mynd allan dwi am iddo fod yn rhywle gyda bwyd sydd yn wirioneddol eithriadol. Mae ffefryn ar y foment yw Hedone yn Chiswick, Llundain, lle mae’r cogydd a pherchennog Mikael Jonsson yn ffynonellu’r cynhwysion gorau sydd ar gael ac yn eu trin gyda pharch, yn cynhyrchu bwyd gwych sydd yn dwyllodrus o syml o ran golwg. Yn fy marn i, ymhlith y coginio gorau yn y wlad.

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Halen Môn, Parmesan dyflwydd oed yn ddelfrydol o gwmni Ham and Cheese, menyn heb halen.

BETH YW EICH PLESER BWYD EUOG?
Snickers o’r oergell, wedi’i dorri’n wyth dafell gyda phinsiad hael o Halen Môn.

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Es i ar wyliau i Benrhyn Llyn lawer gwaith pan oeddwn yn blentyn, a dim ond ai ymweld â’r ardal nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach pan wahoddodd Alison a David mi i Ynys Môn. Felly, yn bennaf o atgofion fy mhlentyndod, fyddai’n defnyddio’r pum gair canlynol:

Prydferth, traethau, yr Wyddfa, cig oen, halen.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Ar wahân i halen (mae’r rhan fwyaf o bobl dan flasuso’u bwyd) byddai’n rhaid i mi ddweud cennin, er nad yw hyn mor wir yng Nghymru. Rwy’n defnyddio tua dwsin neu fwy’r wythnos. Mae’n un o fy hoff lysiau, yn enwedig wedi’u pobi gyda hufen a Parmesan.

leeks

BETH YDYCH CHI’N BWYTA PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD ADREF WEDI DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Gan fy mod i’n gweithio o gartref dwi’n gwneud y rhan fwyaf o fy mwyta yno hefyd. Mae’n rhoi cyfle i mi baratoi bwyd yn ystod y dydd, rhoi stoc ymlaen, gwneud bara ac ati. Hefyd, dwi’n casáu gwastraff a dwi wrthi’n gyson yn gwneud prydau o fwyd dros ben. Un nodweddiadol yw amrywiaeth o gig sydd dros ben, cennin, blodfresych a sbigoglys wedi ei llacio gyda sudd cig, hufen, gwin gwyn ac yna’i phobi gyda gratiad da o Parmesan. Mae fy ngwraig a minnau hefyd yn hoffi sofliar wedi rhostio’n syml gyda digon o Halen Môn a phupur du a’i weini gyda’u sudd rhostio a salad.

BETH EICH HOFF LYFR COGINIO?
Cwestiwn anodd iawn gan fod gen i fwy na 500. Os oes rhaid dewis, fodd bynnag, yr wyf yn mynd am The Complete Nose to Tail: A Kind of British Cooking gan Fergus Henderson a Justin Piers Gellatly. Mae hwn yn gasgliad o’r ddau lyfr y bwyty St John. Rwyf wrth fy modd gyda’r math yma o fwyd – Prydeinig iawn gyda’r cynhwysion gorau, coginio syml – ond rwyf hefyd yn credu bod y ffotograffiaeth yn wych ac, yn ôl pob tebyg yn fwy na dim, ffraethineb ac ymadroddion Fergus Henderson yn wledd.

Lluniau a darluniau: Jess Lea-Wilson

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping