Os nad yw Hawkshead Relish yn gwneud siytni yna mae’n debyg nad yw yn werth bwyta. Mae eu hamrywiaeth o dros 120 relish, picls a chyffeithiau i gyd wedi’u gwneud â llaw mewn sypiau bach gan ddefnyddio sosbenni agored traddodiadol a chynhwysion o’r radd flaenaf, a gallwch ddweud, oherwydd o’u jam Mafon a Fanila, i’w picl Garlleg Indiaidd , mae pob jar mor llachar a blasus a’r nesaf.

Mae Maria a’i gŵr Mark, sylfaenwyr a pherchnogion y cwmni, yn dwli ar fwyd. Maent yn teithio ar draws y byd yn blasu popeth o fewn eu gallu i sicrhau eu bod eu cyfuniadau blas yn dda. Maent yn treulio cymaint o amser â phosib yn eu cegin datblygu, ac maent yn aml yn feirniaid yn y gwobrau byd-enwog Great Taste. Maent hefyd yn digwydd bod yn ffrindiau da iawn. Yn enwog am y lletygarwch maent yn ei gynnig yn eu cartref hardd Ardal y Llynnoedd, maent hyd yn oed yn fwy enwog am wneud ein Saws Carmel Hallt.

Wrth rannu paned o de Swydd Efrog gyda Maria, cawsom gyfle i siarad am wyau ffres a chaws da.

caramel_sauce

BETH GAWSOCH I FRECWAST BORE ‘MA?
Uwd gyda Mêl Cymbria Hawkshead Relish gydag almonau wedi’u tostio a mwg mawr o de cryf Swydd Efrog.

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
I ddechrau fy Mam, roedd hi’n gogydd a phobydd gwych ac roeddwn wrth fy modd yn dod adref o’r ysgol i weld beth roedd hi wedi ei wneud. Yna fy ngŵr, mae Mark yn gogydd, felly fo am addysgodd am gynhwysion a chymysgu blasau.

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Cwestiwn erchyll! Ond i fod yn onest y tri pheth yr wyf yn gwybod na allwn i fyw hebddynt byddai pupur du o Wayanad, wyau ffres gan ein hieir ac wrth gwrs Halen Môn – nid oes unrhyw beth well. Mae’r halen fel gemwaith ac mae blas y  crisialau mor bur.

BETH EICH PLESER BWYD EUOG?
Caws da – nid oes llawer o fathau dwi ddim yn hoffi!

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Wel, ar wahân i bopeth ?! Fy hoff yw bruschetta a wnaed gyda bara surdoes, wedi rhwbio gydag ewin garlleg ffres, ac arno domatos ffres wedi’u torri’n fras, mymryn da o olew olewydd ac ysgeintiad o Halen Môn.

BLE RYDYCH CHI’N BWYTA ALLAN?
Fy hoff ddarganfyddiadau yw bistros bach a redir gan y perchennog sy’n teimlo angerdd am y cynhwysion, ac mae’r blas yn cael eu cyflwyno gyda balchder. Yr agosaf at gartref yn Ambleside yw’r Old Stamp House a Doi Intanon, lle maent yn gwneud bwyd Thai mwyaf anhygoel. Yn Grasmere mae The Jumble Room yn ffefryn, ac yn Windermere Francine’s sy’n mynd a’m bri.

BETH YDYCH CHI’N BWYTA AR ÔL DIWRNOD HIR O WAITH?
Beth bynnag mae Mark (fy mhartner busnes a gŵr) wedi gwneud i mi! Dwi’n ffodus gan ei fod yn aml yn coginio yn ystod yr wythnos, ac mae’r ddau ohonom yn caru’r un blasau. Mae ei gyri yn epig – mae wedi ymweld ag India cymaint o weithiau, mae yn gwybod ei sbeisys. Os ydw i’n coginio, byddaf yn gwneud wy wedi’i botsio, wedi’u torri i fyny ar surdoes, gyda mwg mawr o de Swydd Efrog.

BETH EICH HOFF LYFR COGINIO?
Cawsom gopi o Delia’s Complete Cookery Course tua deng mlynedd ar hugain yn ôl, a  dwi’n dal i gyfeirio ato. Mae gennym gannoedd o lyfrau coginio felly mae’n dibynnu ar yr hwyliau, ond rwyf wrth fy modd gydag unrhyw beth gan Ottolenghi!

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping