Panad gyda ... Gwneuthurwr Menyn, Grant Harrington - Halen Môn

Mae’n hawdd gweld bod gan Grant Harrington obsesiwn gyda bwyd yn gyffredinol a menyn yn benodol. Cogydd wrth ei alwedigaeth, gyda nifer o sêr Michelin o dan ei gwregys, mae bellach yn corddi menyn bum diwrnod yr wythnos, yn gwerthu ar ddiwrnod chwech, ac mae’n treulio diwrnod saith yn glanhau ei holl offer.

Ond mae’r gwaith caled yn talu ei ffordd – mae ei menyn fel dim byd da ni wedi blasu erioed o’r blaen: melys, hallt ac ar yr un pryd, yn sawrus ddwfn. Mae unrhyw fwyty gwerth ei halen yn prynu oddi wrtho. Wrth siarad am halen, mae cogyddion gwahanol yn archebu eu menyn wedi ei gwneud gyda sesnin gwahanol, ac rydym yn falch o ddweud bod Grant yn gwneud sypiau rheolaidd gyda Halen Môn.

Gallwch brynu ei fenyn o Fortnum & Mason, neu o Farchnad Druid St yn Ne Llundain bob dydd Sadwrn.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Cefais fy magu mewn pentref bychan, yn ddaearyddol yng nghanol Lloegr. Felly cyn i mi yrru, rhoddais wersi mewn gitâr, piano, drymiau a theori cerddoriaeth sylfaenol, i nifer o fyfyrwyr iau yn y cartref. Cael fy magu ar y pleser a phwysigrwydd creadigrwydd, cerddoriaeth yn yr achos hwn, dwi’n meddwl yw’r prif reswm dwi yn lle’r ydw i heddiw.

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Fy neiniau a theidiau ddaru fy ysbrydoli i garu bwyd. O blas lemwn ffres teisen fy nain a phastai porc wedi eu llenwi a jeli fy nhaid, i weithio cyn gynted i mi allu cerdded ar randir rhieni fy nhad. Roeddwn wedi syfrdanu ar surni riwbob ffres, at y winwns picl hudol! Fodd bynnag, dwi ddim yn meddwl y gallwch chi ddysgu i garu bwyd, er y gallwch gael eich dysgu i’w werthfawrogi. Mae’r sawl sy’n fy adnabod yn gwybod y gallwn i BYTH adael plât heb ei orffen.

BE GAWSOCH I FRECWAST?
Brecwast? Dwi’n gwybod y dylwn i ddweud tost a menyn da (wedi halltu wrth gwrs) gydag wy meddal dros ben a phupur du, weithiau.

Fodd bynnag, mae fy meddwl yn aml ar ba mor dda oedd cinio neithiwr, felly yn aml byddaf yn ychwanegu wy a rhywfaint o basta wedi’i goginio’n ffres i fwyd dros ben. Mae peli cig gyda phasta yn rhoi dechrau gwych i’r diwrnod. Mae pasta ond yn cymryd ychydig o funudau i goginio, gyda phanad o de cryf.

BETH YW’CH 3 HOFF GYNHWYSYN?
Mae menyn yn gynhwysyn mor bwysig, yn union fel halen. Felly i fod yn amwys ynghylch cael tri “hoff” cynhwysyn, gallwn fyw yn hapus ar bysgod ffres, garlleg a tsili.

BE DI’CH HOFF DYMOR? PAM?
Ar gyfer harddwch pur, a hefyd dylanwadu ar yr holl laswellt a blodau’r ddôl (sydd yn cael effaith ar blas y cynnyrch sy’n dod o’r buchod), mae’n rhaid i mi ddewis y gwanwyn. Ond mae’r gaeaf yn gyd gyntaf, gan ei fod yn aml yn cyfyngu ar ein hadnoddau, ac felly yn ein gorfodi i fod yn greadigol gyda’r hyn sydd ar gael.
Milks

BE DA’CH CHI’N BWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADRE WEDI DIWRNOD (NEU NOSON) HIR O WAITH?
Os yw wedi 1 y bore, peint o lefrith heb ei basteureiddio, yn syth o’r gwartheg y tu allan, ac ychydig bach o siocled tywyll da.

GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Wrth gwrs dwi’n mynd i ddweud fy menyn. Mae’n ychwanegu ansawdd anhygoel. Mae hefyd yn wych ar gyfer plymio radis ffres o’r ardd, ac mae’n yn f’atgoffa o ble mae’n dod; y môr Cymreig hardd, lle roeddwn yn syrffio a nofio fel plentyn.

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Syrff, dreigiau, cennin Pedr, cystadleuwyr rygbi a daear (mwyngloddiau a chwbl)

BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PLÂT O FWYD DA AC UN ANHYGOEL?
Cynhwysion. Nid yw’n ffaith sydd wedi ei anghofio, ond un nad yw’n cael ei werthfawrogi’n llawn. Gall pryd ond fod cystal â’r cynhwysion a ddefnyddir i’w gynhyrchu.

BE DI’CH HOFF EICH AROGL?
Llysiau’r Forwyn ac arogl y mynyddoedd ar dir uchel, ni allant mewn gwirionedd fod yn gymysg.

BE SY’N EICH YSGOGI I GODI YN Y BORE?
Bobby’r ci, fel arall byddai’n cyfarth nes i’r tŷ disgyn i lawr.

PA GYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Ciwcymbr. Mae’r blas yn rhy delicet i mi fel y mae, ac nid mewn ffordd dda fel cregyn bylchog ffres. Mae’n rhaid iddo gael ei halltu neu well, piclo neu eplesu.

0
Your basket