Mae gan gymaint ohonom gamera da ar ein ffonau symudol, mae hyd yn oed cyd-sylfaenydd Halen Môn David wedi mynd i’r afael â’r ‘Instagram’. Rydym yn cael ein hamgylchynu gan luniau mewn ffordd nad ydym erioed wedi gynt. Mewn môr o ddelweddau, mae’n cymryd rhywbeth arbennig i sefyll allan.

Mae ffotograffau Jonathan Gregson, heb gysgod o amheuaeth, fel goleudai yn y môr o ddelweddau – gallwch weld eu prydferthwch milltiroedd i ffwrdd. Mae’n tynnu lluniau popeth o eirth gwynion i de o ansawdd, i bawb o Harrods i gylchgrawn ‘Cereal’, ond mae’n arbennig o adnabyddus am ei ffotograffiaeth bwyd, sydd wedi ennill nifer o wobrau.

Jamie_Mag

Mae ein llwybrau wedi croesi ar sawl achlysur yn y cwpl o flynyddoedd diwethaf – yn fwyaf diweddar tynnodd luniau creision Halen Môn Gorau Prydain Marks a Spencer.

Yn gyffrous i ni, mae’n hanu’n wreiddiol o Ynys Môn, a dechreuodd ei hyfforddiant ffotograffig yng Ngogledd Cymru. Mae’n aml mae’n gofyn am Halen Môn yn arbennig ar gyfer tynnu lluniau yn ei stiwdio yn Ne Llundain. Ein math o ffotograffydd.

Yma rydym yn sgwrsio coginio Eidalaidd modern a phicau burum gyda menyn dros banad.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Glanhau becws o 7am tan hanner dydd ar ddydd Sadwrn. Roeddwn yn 12 oed.

Jamie_mag2

BE GAWSOCH I FRECWAST?
Heddiw, cramwyth wedi tostio gyda menyn

BLE RYDYCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Mae yna gymaint o ddewis Llundain. Rwyf wrth fy modd gyda Zucca yn Stryd Bermondsey, ger fy stiwdio. Mae eu fersiwn modern ar fwyd Eidalaidd yn brofiad anhygoel bob tro.

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Chilli, garlleg, sinsir

Curry_easy

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Pupur Padron

BETH EICH PLESER BWYD EUOG?
Brechdan bys pysgod.

Portmeirion_01

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR
Gwlyb, ond anhygoel o hardd

Portmeirion_02

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Symlrwydd

BETH YDYCH CHI’N BWYTA AR ÔL DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Yn gyffredinol beth bynnag yr wyf wedi tynnu llun yn y stiwdio’r diwrnod hwnnw

Red_magazine

BETH YW EICH HOFF LYFR COGINIO?
Roast Chicken & Other Stories gan Simon Hopkinson. Mae’r ryseitiau yn anhygoel a gorau oll, does dim lluniau.

Roast_chicken1Cadwch i fyny gyda’r hyn mae Jonathan yn saethu (a bwyta) ar ei gyfrifon Instagram a twitter.

Lluniau i gyd trwy garedigrwydd Jonathan Gregson.

Feijoias: Bwyty Providores

Ciwcymbrau: Curry Easy Vegetarian gan Madhur Jaffrey

Pentref Portmeirion: Cylchgrawn Cereal

Hufen iâ: Cylchgrawn Red

Cyw iâr rhost: Cylchgrawn Jamie

0
Your basket