Mae Frances Quinn mor adnabyddus am fod mor dda am bobi ag y mae am ddylunio. O gacennau disglair Midsummer Night’s Dream, i’w labeli rhodd sinsir gyda llinyn careiau mefus, cacennau sbwng Victoria sy’n edrych fel brechdanau, i bowlenni o uwd sy’n edrych fel wyau wedi’u ffrio, mae hi’n gwneud pethau sy’n edrych cystal ag y maent yn blasu.
O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Teulu a ffuglen. Dwi’n dod o deulu mawr, y ieuengaf o bump, felly roedd y gegin a bwyd bob amser yn rhan fawr o fywyd wrth i mi dyfu i fyny. Roedd fy rhieni hefyd yn berchen ar siop lyfrau felly roedd lyfrau fel The Tiger who Came to Tea a The Giant Jam Sandwich yn ffefrynnau cynnar! Heb anghofio’r holl ddarluniau o fwyd gan Quentin Blake yng nghlasur Roald Dahl. Cacen siocled i Bruce unrhyw un?!
BE GAWSOCH I FRECWAST?
Uwd gyda datys wedi’u torri, banana, sinamon, surop masarn, almonau wedi’u tostio ac yr olaf o fy halen Halen Môn fanila!
I BLE DA CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Dwi’n hoffi cefnogi a darganfod llefydd annibynnol cymaint â phosibl ac ymweld â marchnadoedd bwyd o gwmpas y wlad. Dwi hefyd yn caru sushi. Croesewir argymhellion!
BE OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Gweithio mewn siop lyfrau fy rhieni.
BETH YW’CH 3 HOFF GYNHWYSYN?
Sinamon, moron a choffi
GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Uwd a chorbys
DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Bara Brith a Chacennau Cri
BLE DA CHI’N MEDDWL FOD YNA SIN BWYD CYFFROUS?
Vancouver a San Francisco.
BETH FYDDWCH CHI’N EI FWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADRA AR DDIWEDD DIWRNOD HIR O WAITH?
Er bod pobl yn fy adnabod am gacennau, dwi wrth fy modd yn creu powlenni mawr lliwgar llawn o lysiau, grawn a chodlysiau.
BE YW EICH HOFF LYFR COGINIO?
British Baking gan Peyton & Byrne. Hefyd er nad wir yn llyfr coginio, dwi wrth fy modd yn cyfeirio at The Flavour Thesaurus gan Niki Segnit.