Panad Gyda ... Cynan Jones o'r Ardd Fadarch - Halen Môn

Heb os nag oni bai, Cynan yw Y dyn madarch.

Deng mlynedd yn ôl penderfynodd ymchwilio ymhellach I fyd y ffyngau – rhywbeth a oedd wedi ymddiddori ynddo erioed – ac mae ei fusnes Yr Ardd Fadarch yn ganlyniad o’i fforio am fwyd. Dechreuodd ef a’i wraig June gyda madarch gwyllt Eryri ac yn fuan trodd sylw at dyfu madarch mwy egsotig. Mae eu ffwng enwog yn tyfu yn ardal eithriadol o hardd yn Eryri, ac yn ffynnu ar law a niwl enwog Cymru.

Roedd yn anochel y byddai Halen Môn yn gweithio gyda Cynan a June pan mae eu busnes teuluol yn gwneud cynhyrchion o safon mor uchel , ac mae ein halen 3 Seren Aur  Umami yn ganlyniad blasus o’r cydweithio.

Diymhongar, caredig a hynod ddoniol, yn ogystal ag un o arbenigwyr ffyngau blaenllaw Cymru, mae Cynan yn fardd Cymraeg medrus iawn hefyd. Yma, rydym yn sgwrsio Antonio Carluccio ac ansiofi dros fwg o de Cymreig.

PWY OEDD WEDI’CH DYSGU I GARU BWYD?
June, fy ngwraig. Mae hi wedi bod yn fforio a garddio erioed ac wrth ei bodd yn arbrofi gyda llysiau, perlysiau a sbeisys newydd a diddorol (i fynd gyda’n cig oen a phorc eu hunain – mae hi hefyd yn ffermwr rhan amser).

BETH OEDD WICH SWYDD GYNTAF?
Y cyntaf oedd rownd bapur pan oeddwn tua 13 oed yn fy nhref enedigol, Flaenau Ffestiniog yng Ngogledd Cymru – y swydd gyntaf go iawn oedd pan gymerais flwyddyn allan o’r cwrs gradd Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Lerpwl i wneud cwrs nyrsio (nid oes llawer o bobl yn gwybod hyn!) brofiad anhygoel o A&E, Theatr a’r gorau oll Obstetreg.

BE GAWSOCH I FRECWAST?
Melon i ddechrau, yna tapenade cartref gydag olifau, caprau a garlleg.

BLE FYDDWCH YN MYND ALLAN I FWYTA?
Da ni ddim yn bwyta allan yn aml – mae June a finnau wrth ein bodd yn coginio adref bob gyda’r nos a phan i ffwrdd yn sioeau fwyd rydym yn tueddu “fforio” yn ystod y dydd a chael picnic yn yr ystafell yn y gwesty (gyda gwin, wrth gwrs).

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Garlleg, Lemwn a gwin.

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Ein powdr Shiitake a gwymon sych yn y sesnad umami unigryw.

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR
Cyfareddol, ysbrydoledig, rhwystredig A chartref

BLE YDYCH CHI’N MEDDWL MAE’R SIN BWYD MWYAF CYFFROES?
Cricieth! Tref glan môr bychan yng Ngogledd Cymru. Mae yno ystod eang o ddewisiadau bwyd, bwyd tafarn gwych (Castle Inn)  ac amrywiaeth o dai bwyta gan gynnwys Bron Eifion Country House.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Ansiofi

BETH YW EICH HOFFLYFR COGINIO?
Gan fy mod yn ffanatig ffyngau mae’n rhaid i mi fynd am Complete Mushroom Book gan Carluccio sy’n cynnwys awgrymiadau fforio a ryseitiau ardderchog.

Mushroom

Delweddau: Matt Russell

0
Your basket