Panad gyda ... Cyd-sylfaenydd Halen Môn, Alison Lea-Wilson - Halen Môn

Mae Alison, cyd-sylfaenydd Halen Môn, yn un sydd wrth ei bodd lle mae bwyd yn y cwestiwn. Mae hi’n teithio’r byd o Shanghai i St Petersburg i werthu Halen Môn ac mae hi bob amser yn cario llyfr nodiadau i gofnodi pob rysáit sydd yn ei ysbrydoli ar hyd y ffordd. Mae ganddi gymaint o sgiliau yn y gegin ac sydd ganddi wrth werthu ein halen (mae ei surdoes, yn arbennig, yn rhywbeth i’w chanfod).

Yma mae’n sôn am yr hyn mae Cymru yn golygu iddi ynghyd a thrychinebau yn y gegin.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Dwi wedi gweithio mewn siop deunydd ysgrifennu oedd yn arogli o bensiliau a phapur newydd. Roeddwn hefyd yn gynorthwyydd mewn becws lle gallech ddewis cacen i’w fwyta yn eich egwyl, gweinyddes, lluosogwr mewn meithrinfa blanhigion, morwyn bar, cyfosodwr mewn ffatri blastig a chogydd.

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Fy nheulu. Eistedd o amgylch y bwrdd i fwyta brecwast a swper oedd yr arfer. Roedd fy nain yn bobydd p fri ac roedd y mwyafrif o achlysuron cymdeithasol yn canolbwyntio ar fwyd. Ysgrifennais fy llyfr ryseitiau fy hun pan yn blentyn ac roedd yn cynnwys llawer o bethau rhyfedd o’r ardd fel neithdar gwyddfid a dail helyg.

BE’ GAWSOCH I FRECWAST?
Tost surdoes gydag afocado a Halen Môn – do wir i chi!
chickens

BETH YW EICH PRYD MWYAF COFIADWY HYD YMA MEWN BYWYD?
Bu cymaint ohonynt. Mae rhai yn gofiadwy am y cwmni, eraill am y lleoliad ac eraill am y bwyd.
Y Stone Barn, Blue Hill, Efrog Newydd, lle ddaru bob cwrs yn gwneud i ni wenu yn ogystal â glafoerio.
Gwledd bwyd môr ar draeth ffrind yn Ynys Môn
Mae rôl cimwch yn Rhode Island
Cymryd gwyriad oddi ar y brif ffordd rhwng Nice a’r Eidal a ddatgelodd bwyty bwyd môr ar y traeth gyda Halen Môn ar bob bwrdd
Stêc ym mwyty Zingerman
Pryd o fwyd bythgofiadwy yn y Fat Duck
A swper yn Y Tŵr CN, Toronto
Nifer o giniawau Nadolig dros y blynyddoedd, gan rannu poteli da o win coch gyda fy nhad.

BETH YDYCH CHI’N EI FWYTA AR ÔL DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Wyau gan ein hieir hunain wedi potsio ar fy surdoes wedi tostio gyda phentwr o fenyn hallt.

GYDA BE MAE HELEN MÔN YN MYND ORAU?
Tatws rhost

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Balch, pell-weledig, cynhwysol, hardd a magwraeth

BETH YW EICH HOFF AROGL?
Y môr hallt

BETH YW EICH TRYCHINEB GWAETHAF YN Y GEGIN?
Past papur wal llwyd yn lle gnocchi

PA GYNHWYSYN A THANDDEFNYDDIR MWYAF?
Hyder

BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG A PHLÂT DA BWYD AC UN ANHYGOEL?
Mae halen a phupur cywir, cyflwyniad hardd, amgylchoedd a chwmni cywir

DELWEDDAU: J Lea-Wilson

Any orders placed between 20th Dec – 4th Jan will be despatched on 4th Jan 2021. Read More.

beach

Stay in touch

We put a lot of time and care into our newsletters, and want them to be something you look forward to opening rather than deleting.

Expect original recipes from brilliant chefs, links to interesting and delicious things, and of course, plenty of beautiful pictures of the Salty Isle. It's a flicker of Ynys Môn in your inbox, around once a month.

We know you get a lot of emails and we promise not to go overboard. You can unsubscribe at any time.

0
Your basket