Gyda’i gilydd, mae David Hieatt a’i wraig Clare wedi sefydlu tri o’n hoff gwmnïau.

Yn gyntaf daeth Howies, brand dillad gyda llyfrynnau mor hardd na allem eu taflu i ffwrdd. Ein hoff dudalen bob amser oedd  y ‘llyfrgell’, oedd yn rhestru’r llyfrau o’u casgliad y gallech ei fenthyg am ddim. Roedd y geiriau crefftus yn darllen fel barddoniaeth hefyd, a dyluniadau crys-t mor wreiddiol ein bod am brynu pob un ohonynt. Daeth The Do Lectures nesaf, gŵyl unigryw o syniadau yn seiliedig ar siaradwyr oedd yn gwneud nid ‘mond siarad. Gan arbenigwyr ar enedigaeth i ymwybyddiaeth ofalgar, siaradwyr ar fusnes cyfrifol i bwysigrwydd hiwmor mewn bywyd pob dydd – y trafodaethau yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. (Gallwch wylio Alison a David siarad, ar bwysigrwydd ecsentrigwydd yma.) Ac yn fwyaf diweddar cawsom Hiut Denim, brand mor cŵl bod hyd yn oed eu clwb ‘Dim Golchi’ yn un roeddem am fod yn rhan ohono.

Mae David a Clare yn ysbrydoledig mewn nifer o ffyrdd, ond mae eu hagwedd at fwyd yn arbennig o bwysig i ni. Mae gan y ‘Do Lectures’ cyfres gyfan o sgyrsiau yn ymwneud â phwysigrwydd bwyd yn y byd. Maent yn cydnabod bod “yr hyn rydych yn bwyta yn fwy na chynhaliaeth yn unig. Gall prydau fod yn ffurf ar gelfyddyd, arbrawf, yn ffordd o gysylltu â’r bobl yr ydych yn gofalu amdano. Cariad yw bwyd”. ‘Ni allem fod wedi ei roi yn well ein hunain.

Mae David yn unigolyn ffocws dwys sy’n cael y maen i’r wal. Yn weithredwr, nid siaradwr.

PWY A ADDYSGOCH CHI I GARU BWYD?
Dechreuodd fy niddordeb mewn bwyd pan ddechreuais fyw gyda Clare yn Efrog Newydd, er ein bod yn dod o’r un pentref yn ne Cymru. Roeddem wrth ein boddau yn mynd allan i rywle neis i fwyta. Yna, pan ddaeth y plant, cwtogwyd ar hyn. Ond parhaodd y bwyta’n dda. Felly ie, o Clare ddaeth fy nghariad at fwyd.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Wel, na’i ddim cyfri pigo cennin Pedr yn Jersey ar ôl rhoi’r gorau i’r ysgol fel nad oedd rhaid i mi wneud Safon Uwch. Ac na’i ddim cyfri glanhau olwynion teiars car ar gyfer cwmni rhentu ceir Guy Salmon wedi i mi gael cic allan o’r coleg. Fy swydd gyntaf go iawn, y gallai fy rhieni yn cyfaddef i’w ffrindiau, oedd fel awdur ar gyfer asiantaeth hysbysebu greadigol mwyar byd sef Saatchi a Saatchi. Nid oeddwn yn gallu sillafu. A rown i’n meddwl mai ‘colon’ oedd rhywbeth ‘rydych yn mynd i’r ysbyty am. Ond roedd gen i syniadau. Ac fe ges i hwyl go iawn.

daffs

I BLE DA CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
‘Da ni ddim yn mynd allan hanner digon. Dwi’n eistedd i mewn ac edrych ar dabl y cogydd ar Netflix ac yn eu hedmygu. Mae’n hen fusnes anodd. Ond mae’r hufen yn codi i’r brig. Os oedd gan Scott Davies le, byddwn yn mynd yno, Pe ba’i gen i amser, byddwn yn mynd i Wrights Food Emporium dwi’n clywed yn ei bod yn anhygoel. Ac mae’r Grove yn Arberth yn gwneud yn dda.

BETH YW’CH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Tatws ffres o’r ddaear. Shibwns. Caws Hafod.

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Wyau (o ieir da chi wedi eu bwydo) wedi’u berwi. Surdoes da chi newydd dynnu allan o’r popty. Yna, ychydig o halen ganddo’ch chi. Does dim byd symlach. Na gwell.

chickens

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Diymffrost, Hiwmor. Gonest. Cymuned. Creadigol.

BLE DA CHI’N MEDDWL MAE’R SÎN BWYD MWYAF CYFFROES?
Hoffwn fynd i Copenhagen a mynd i Noma cyn iddo gau. Mae Rene yn gwisgo ein jîns felly byddai’n dda i gwrdd ag ef. Mae ‘na glwstwr o bobl yn gwneud pethau diddorol yno sudd wedi eu sbarduno gan yr hyn mae Rene wedi ei wneud. Felly ie, byddai’n dda mynd yno.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Amser.

BE’ DA CHI’N BWYTA WEDI CYRRAEDD ADREF AR ÔL DIWRNOD HIR O WAITH?
Ar hyn o bryd, mae Clare wrth ei bodd gyda bwyd Anna Jones. Mae’n gwneud i chi deimlo’n dda ac mae ei holl flasau yn ffres.

Delweddau: Jess Lea-Wilson

0
Your basket