Mae’r Marram Grass yn gaffi weddol eithriadol yn Niwbwrch, Ynys Môn. Mae mewn hen gwt potiau ar gyrion maes carafanau, ac mae hefyd yn y Good Food Guide 2016. Dau beth na fyddech yn rhoi efo’i gilydd efallai. Mae’r caffi cyfeillgar wedi’i leoli yng nghefn gwlad drawiadol Cymru, ac yn ein barn ni, yn gweini rhai o’r bwydydd gorau ar ein hynys hallt. Meddyliwch am gig oen suddlon lleol, cregyn gleision ac wystrys o’r Fenai, cwrw Eryri, a phwdin eiconig y ‘cwt potiau’.

Mae’n cael ei redeg gan ddau frawd hoffus o Lerpwl – Ellis a Liam, sydd wedi bod yn prynu Halen Môn ers iddynt gymryd drosodd o’u rhieni. Yn ogystal â’r  bwyty / caffi gwobrwyedig, mae ganddynt dyddyn lle maent yn cynhyrchu llawer o’u bwyd eu hunain, ac yn ystod misoedd yr haf, siop fach ar y safle lle gallwch brynu bob math o ddanteithion lleol. Mae’n wir werth ymweld ar y ffordd yn ôl o daith gerdded wyntog ar y traeth.

Yma rydym yn sgwrsio gyda’r prif gogydd Ellis am ddigwyddiad anffodus gyda tsili, a’r hyn y mae’n credu sy’n gwahaniaethu plât anhygoel o fwyd o un da.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Wnes i weithio yn golchi gwallt mewn salon ffrind mam yn Lerpwl. Datblygais y ddawn o sgwrsio â merched wyneb i waered! Pob amser yn ceisio eu swyno am fy nghildwrn o £1. Fy swydd gyntaf go iawn mewn bwyd oedd mewn bwyty Eidaleg yn Lerpwl o’r enw Fellini. Roedd yn gegin fawr – 14 o gogyddion. Roeddwn yn golchi llestri neu dorri nionod, ond yn ceisio gweld bob amser beth oedd yn mynd i’r ffwrn. Ces i fy nhrychineb cyntaf yno – mae’n rhaid fy mod od i wedi paratoi mil o tsilis. Mae’n debyg y gallwch ddyfalu beth sy’n dod nesaf, ond es i i’r toiled. Daeth fy stori yn rhan o fideo iechyd a diogelwch yn ddiweddarach!

O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Nain a Taid mewn gwirionedd. Roedd Taid ar ochr mam yn gogydd yn y FD ac fel plentyn roeddwn yn byw ac yn bod yn y gegin gydag ef, yn gwneud tartennau jam. Ac ar yr ochr arall hefyd, pan ddaru fy nhaid ar ochr fy nhad ymddeol, cafodd fy nain cic allan o’r gegin a dechreuodd gwneud yr holl goginio. Roedd yn byw drws nesaf i ddyn o’r India a ddysgodd ef sut i wneud cyrïau anhygoel.

Roedd mam a dad yn gweithio’n galed tra roeddwn yn tyfu i fyny, felly cawson bentwr o nygets cyw iâr efo nhw. Maen nhw wedi newid eu ffyrdd yn awr. Oergell yn llawn o gawsiau lleol a phob mathau o bethau.

BE’ GAWSOCH I FRECWAST?
Brechdan bacwn lleol a saws HP. Mae gen i reol, dim sos coch cyn 11yb.

BETH YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Mae’n dibynnu pa bryd y byddwch yn gofyn i mi, mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd mae’n artisiogau Jerwsalem, maen nhw dros y fwydlen. Wedyn Halen Môn wrth gwrs. Ac yn eu tymor, asbaragws. Ond yr wythnos diwethaf, garlleg gwyllt. Dwi’n ei gasglu oddi ar y ffordd sydd yn arwain at Halen Môn ac yn ei roi ar bopeth.

NewboroughDISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUMP GAIR
Mae Cymru wastad wedi cael lle yn fy nghalon. Dwi’n byw yma ers saith mlynedd bellach, ond ymhell cyn hynny roeddem yn dod yma ar wyliau bob blwyddyn. Dwi wedi cael croeso, a dwi wrth fy modd bod bwyd yng nghanol pethau sy’n digwydd yma. O iawn, pum gair. OK byddwn i’n dweud:

Prydferth, croesawgar, cymunedol, antur, bwyd.

BETH YW’CH HOFF DYMOR?
Hydref. Mae’n gyfuniad o bethau’n arafu yn y bwyty, ac yna’r holl gynhwysion anhygoel sy’n dod i dymor. Dw’i wrth fy modd yr holl gêm yn yr ardal hon, ac yna’r tomatos aeddfed sy’n wirioneddol anodd eu curo.

BETH FYDDWCH YN BWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADREF WEDI SHIFFT HIR?
Yn aml, byddaf yn agor tun o domatos da, eu blasuso’n dda iawn a’u bwyta ar dost. Ond mae gan fy nheulu fath o reol – ‘da ni ddim yn defnyddio platiau ar ôl 9 y nos. Felly mae’n fater o fwyd yn syth o’r oergell i’r geg – tipyn o fwffe. Chorizo neu gaws da, neu unrhyw beth y gallwch ei blygu i fyny a’i fwyta yn gyflym!

GYDA BETH MAE HELEN MÔN YN MYND ORAU?
Dwi wrth fy modd ei ddefnyddio i gochi fy mhysgod. Darn neis o gegddu neu benfras. Gallwch chi ddim curo pinsiad o’r halen mwg ar wy wedi’i ferwi. Syml a blasus.

BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PLÂT O FWYD DA AC UN ANHYGOEL?
Y gofal sy’n mynd i mewn i ddod o hyd i gynhwysion da. Y dyddiau hyn mae pobl yn gofalu llawer mwy am darddiad eu bwyd. Da ni’n gwneud cymaint ag y galle’n i gefnogi’r economi leol, ac mae’n bleser i ddefnyddio pethau lleol, tymhorol da. Da ni’n gweithredu cyfran cnwd, a gall pobl sy’n byw ger y bwyty dod a chynnyrch sbâr atom i’w gyfnewid am dalebau tuag at fwyd yn y bwyty.

BETH YW EICH HOFF AROGL?
Llanw isel ar Ynys Môn – arogl y gwymon. Dwi jyst wrth fy modd. Neu efallai arogl peiriant dwy strôc yn yr haul. Mae’n f’ atgoffa o wyliau yn Tenerife gyda’n nhaid ac yn gwneud i mi feddwl am yr arogl anhygoel sydd i goffi gwych.

Edrychwch ar fwy o wybodaeth ar wefan y Marram Grass yma.

Llun Niwbwrch: Jess Lea-Wilson

0
Your basket