Chloe Timms o Becws Fattie yw brenhines caramel hallt. Mae ei stondin ar farchnad Druid St yn Ne Llundain bob amser yn ogoneddus o lwythog gydag amrywiaeth diddiwedd o losin – caramel menyn pysgnau, pretzels disglair ar gyfer dipio, sherbets ffrwythau, a phob math o bethau sgwotshlyd, stomplyd a melys-moes-mwy, ac yn aml wedi paru gyda blas glân Halen Môn. Ei losin gludiog wedi lapio mewn papur gwrthsaim yw ein ffefrynnau personol, mae rhywbeth am y ffordd mae hi’n eu gwneud yn golygu eu bod yn fwy na swm eu rhannau.
Gan y bydd Halen Môn ym marchnad Druid St ym mis Mai ddaru ni dal i fyny gyda Chloe am banad cyflym rhwng ei sesiynau carameleiddio.
BE OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Syrffedus iawn, roeddwn yn gynorthwyydd gwerthu rhan amser mewn siop oedd yn llawn o bethau bregus, treuliais y rhan fwyaf o f’amser yn ceisio eistedd yn hollol llonydd. Dwi’n eithaf lletchwith!
O BLE DAETH EICH CARIAD AT FWYD?
Fy Mamgu, roeddwn yn byw gyda hi tra oeddwn i’n ifanc. Yr Aga oedd calon y cartref a ble y dysgais i bobi, creu llanast a chael bwyd cyffrous. Dwi byth wedi cael prydau plant, dwi wedi bwyta gyda’r oedolion ac felly, o oedran ifanc, dwi wedi bod yn agored i gawdelau cyfoethog gwallgof Mamgu. Pyffion Cyrri a thartenni caws a chrancod wedi taflu at ei gilydd ar gyfer ciniawau wrth fwrdd y gegin a ffurfiodd conglfaen fy ieuenctid.
BE GAWSOCH I FRECWAST?
Te cryf. Gormod o gwpanau.
BE YW EICH TRI HOFF GYNHWYSYN?
Halen, siwgr a hufen.
BE YW EICH HOFF DYMOR?
Gwanwyn, dw’i wrth fy modd yn gweld pethau yn dod yn ôl yn fyw a’r wefr yn y farchnad pan ddaw’r haul allan. Mae’n hudolus ar ôl gaeaf hir.
BE DA’ CHI’N BWYTA PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD ADREF WEDI DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Bara da, menyn hallt gyda thalpiau o gaws a chreision.
GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?
Yr wyf wrth gwrs yn unllygeidiog, ond Halen Môn yn gwneud gwaith gwych o dempro melyster fy ngharamel heb adael blas mwdlyd. Felly gallaf fod yn ddigywilydd a dweud caramel?
DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Gwyllt, cysurus, ffres, toreithiog a mynyddig
BE SY’N GWNEUD GWAHANIAETH RHWNG PLÂT DA A PHLÂT ANHYGOEL O FWYD
Cynhwysion da a chogydd cariadlon.
BE YW EICH HOFF AROGL?
Tost.
Delweddau: Lazy Oaf / Chloe Timms