Mae bwytai Dylan’s – ym Mhorthaethwy, Ynys Môn a Criccieth, Gwynedd – wedi dod yn ffefrynnau yn sydyn am eu bwyd môr lleol, pitsa gwych a bara hyfryd. Wedi sefydlu gan bedwar dyn efo cariad at fwyd a gwasanaeth da, rydym ni bob amser yn edmygu eu llygad craff am fanylion, o’r dodrefniad rhyfeddol i fwydlenni hyfryd. Mae’r ddau fwyty reit ar lan y môr hefyd, sydd yn ein hatgoffa o ble mae ein bwyd yn dod, a pam fod arfordir Gogledd Cymru yn le mor arbennig i fyw.

Cyn agor bwyty cyntaf Dylan’s, roedd gan Robin, un o’r sefydlwyr, siop dillad “vintage” yn Leeds, yn ogystal â nifer o bethau eraill. Yma rydym ni’n trafod i ble mae perchennog bwyty yn mynd allan i fwyta, a pa gynhwysyn mae o’n credu nad ydym ni’n defnyddio digon arno.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Pacio porc peis

PWY WNAETH EICH DYSGU I GARU BWYD?
Fy nhaid- Tom

BETH GAWSOCH CHI I FRECWAST?
Museli

BETH YW’R PETH ANODDAF AM AGOR EICH BWYTY EICH HUN?
Dim ond 24 awr sydd mewn diwrnod  !

BETH YW EICH HOFF DYMOR?
Gwanwyn – tyfiant, genedigaeth, ailenedigaeth

BETH FYDDWCH CHI’N EI FWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADRA AR DDIWEDD DIWRNOD (NEU NOSON) HIR O WAITH?
Bara – pain de campagne surdoes a darn da o stilton aeddfed

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR
Gwyllt, rhyfeddol, gwlyb, gwyntog a dwys

BETH SYDD YN GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PRYD DA O FWYD AG UN ARBENNIG?
Sylw at fanylion

BETH YW EICH HOFF AROGL?
Pridd cynnes ar ôl iddi lawio

I LE FYDDWCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Sosban ym Mhorthaethwy

CYNHWYSYN A DAN-DDEFNYDDIR FWYAF?
Cariad

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping