Panad â… cogydd Chris Roberts (Flamebaster)

by | Maw 2, 2021

Mae Chris Roberts, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘Flamebaster’, wedi cael llwyddiant ysgubol yng Nghymru (a thu hwnt) gyda’i angerdd a’i wybodaeth am fwyd, tarddleoedd a choginio awyr agored.

Mae ei gariad at goginio a’i famwlad yn cael argraff fawr, ac mae’n enwog am ffilmio ryseitiau mewn lleoliadau godidog o amgylch Gogledd Cymru, dros fflamau anhygoel. Gallwch wylio ei gyfres ar S4C, neu mae llu o ryseitiau ar gael ar ei wefan. Rhybudd – mae hi’n anodd gwylio ond un, a byddwch yn llwgu mewn ychydig funudau!

Disgrifia Ogledd Cymru mewn pum gair.

Adra. Hamddenol. Hudol. Epig. Ysblennydd.

Mae pobl wrth eu boddau’n dy wylio di’n coginio gan fod dy frwdfrydedd am gynhwysion da, a Chymru, wir yn amlwg. O ble ddaeth y cariad at fwyd?

‘Dw i wedi caru bwyd erioed, ‘dw i’n cofio bod yn 5 neu 6 oed, pan roedd fy ffrindiau i gyd yn gwylio cartŵns Teenage Mutant Ninja Turtles a Transformers, ro’n i’n gwylio rhaglenni Keith Floyd.

Ro’n i’n lwcus o gael llawer o gogyddion gwych yn fy nheulu wrth dyfu i fyny, ond daeth fy nghariad at dân o straeon dad am ei amser ym Mhatagonia – gwersylla, pysgota a bwyta Asado gyda’r gauchos. ‘DW I’N CARU TÂN! Mae tân yn rhan o’n DNA, cyn nwy, trydan, griliau George Foreman a microdonnau – roeddem i gyd yn coginio ar dân.

Alli di roi awgrym neu ddau i ni ar sut i goginio’r cig oen rhost Cymreig orau erioed?

Defnyddiwch ddarnau o gig heblaw am y goes! ‘Dw i’n caru rhannau rhatach o gig oen Cymreig. Y gwddf, ysgwydd, brest ac asennau. Maent yn berffaith ar gyfer coginio’n ara’ deg ar wres isel.

‘Dw i wedi coginio LLAWER o ŵyn cyfan Mynyddoedd Eryri ar fy Asado dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Creais heli ‘Salmuera’ Gaucho gyda llwyth o Halen Môn, haneri lemwn, dŵr, garlleg a tsili a’i adael i fudferwi’n araf dros y tân tra bod yr oen yn rhostio. ‘Dw i’n hoffi brasteru’r oen i gyd gyda brws rhosmari, dail llawryf a theim pob rhyw 20 munud. Mae sicrhau bod yr heli’n mudferwi yn golygu nad yw’r broses goginio’n arafu wrth frasteru. Mae’r Halen Môn yn y cymysgedd yn trawsffurfio’r braster i greu’r craclin gorau erioed – hyd yn oed yn well na chraclin porc yn fy marn i.

Pwy sy’n coginio bwyd ti’n awyddus i’w fwyta yng Nghymru ar hyn o bryd?

Mae Cymru’n cynhyrchu cogyddion talentog dros ben. Mae fy ffrind da Tomos Parry o Ynys Môn, oedd â bwyty o’r enw BRAT yn Shoreditch, Llundain, yn athrylith. Bob tro ‘dw i’n bwyta ei fwyd, mae’n fy syfrdanu, mae cymaint o angerdd a chariad yn y bwyd. Mae Nathan o SY23 yn Aberystwyth yn ddewin blas. Simmie Vedi draw yng Nghaerdydd, ‘dw i’n llyfu sgrin fy ffôn pob dydd yn edrych ar ei phlatiau hi. Jones Pizza Co yng Nghaernarfon, mae Rich Jones yn coginio pitsas hyfryd. Heb anghofio fy nheulu Caernarfon Kebab, moooor dda!! Mae pair o dalent anhygoel yma yng Nghymru.

Mae hi’n hwyr, ti’n llwglyd ac eisiau bwyta rhywbeth yn gyflym. Beth fyddi di’n ei goginio?

Mae reis wedi’i ffrio â Kimchi’n plesio bob tro!

0
Your basket