Pam fod ein cynnyrch gwastraff mwyaf yn bell o fod yn wastraff - Halen Môn

Fel fod unrhyw un sydd wedi ymweld â Thŷ Halen neu wedi mynychu un o’n teithiau tywys yn ôl pob tebyg yn gwybod, ein sgil-gynnyrch mwyaf o bell ffordd wrth i ni gynhyrchu ein halen môr enwog yw dwr distylledig. Wedi i ni cynaeafu Halen Môn o’r môr mae’r ffurf buraf o hylif ar ôl.

Yn wreiddiol, nid cynhyrchu dŵr oedd y bwriad, dim ond fflochiau disglair, gwyn perffaith. Ond wrth aeddfedu fel cwmni (ac fel pobl) wnaethom ni sylweddoli ei bod yn gwneud synnwyr i edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd. Pam mynd drwy broses lafurus o ferwi cymaint o ddŵr môr a’i chyddwyso dim ond i’w daflu?

Dyma ni’n mynd ati i ddysgu mwy am ddŵr distylledig a darganfod er nad oedd yn blasu’n neis iawn, roedd ei burdeb yn ddefnyddiol iawn ar draws llu o ddiwydiannau. Ac felly, ychydig flynyddoedd yn ôl, fel arbrawf o ryw fath, dyma ni’n dechrau ei photelu.

Yn ddigon sicr, yn araf i ddechrau dechreuodd pobl ei brynu. Ac yn awr, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae gennym sylfaen o gwsmeriaid sefydledig sy’n ein hadnabod fel y bobl sy’n gwerthu dŵr, nid halen môr. Ac mae’r defnyddiau yn eithaf diddorol (o leiaf i ‘geeks’ halen / dŵr fel ni).

Bubbles
Mae yna ddefnyddiau disgwyliedig i’r dŵr, wrth gwrs, fel ei ddefnyddio i lenwi eich haearn smwddio i ymestyn ei oes, ond mae yna lu o ddefnyddiau annisgwyl hefyd. Dyma rai o’n ffefrynnau:

  • Mae’r sawl sydd yn well ganddynt sain ddilys finyl yn defnyddio’n dŵr i gadw eu recordiau fel pin mewn papur
  • Mae gŵr bonheddig yn prynu yn rheolaidd ar gyfer ei humidor sigâr – blwch sy’n cynnal y lleithder gorau posibl ar gyfer ei sigarau
  • Mae nifer o bobl gyda threnau bach ei ddefnyddio ar gyfer y stêm o ansawdd gorau
  • Mae cwsmer a oedd eisiau dannedd gwyn Hollywood yn defnyddio’r dŵr gyda’r pecyn gwynnydd ar gyfer gwên befriog
  • Mae arlunydd yn defnyddio’r dŵr i wanhau ei acrylig ac yn cyflawni’r arlliwiau perffaith
  • Mae cwpl o bobl sy’n gwneud eu colur eu hunain yn eu gwanhau gyda’n dŵr pur
  • Mae ein ffrindiau yn Dr Zig’s yn defnyddio’n dŵr i wneud eu citiau swigod enfawr gwych (yn y llun uchod)
  • Mae ein dŵr hyd yn oed yn cael ei gredydu am ddod â’r sêr yn nes at y ddaear, da ni’n nabod nifer o bobl sy’n ei brynu i lanhau lensys eu telesgop

Efallai ein hoff ddefnydd yw ein cwsmer sy’n bwydo i’w Actinoscyphia aurelia (Venus flytrap). Mae’n edrych fel eu bod wrth eu boddau. Ysgrifennodd un adolygwr ar-lein ‘mae fy mhlanhigion wedi datblygu mwy o drapiau ers ei ddefnyddio (efallai fod hyn oherwydd eu bod yn gweld mwy o heulwen) ac yn edrych yn iach iawn drostynt.’

Da ni wrth ein boddau gyda Venus flytrap hapus.

Llun Tirwedd: Jess Lea-Wilson

Llun Swigod: Matt Russell

0
Your basket