Os nad ydych wedi clywed am Anna Jones eto, mi ddylech – ‘gwych’ yw sylw Nigel Slater am ei llyfr newydd, A Modern Way to Cook. Mae hi wedi gweithio gyda phawb o Mary Berry i Yottam Ottolenghi.

Mae A Modern Way to Cook yn ymwneud â choginio pan fyddwn am wneud rhywbeth sydd yn hawdd i’w cyflawni. Beth sy’n gyflymach a mwy boddhaol nag omlet da iawn? Fel y dywed Anna, ‘mae ansawdd yr wyau a ddefnyddiwch yn gwbl allweddol, does dim cuddio, wyau organig neu fferm gyda melynwy melyn.’

Mae wyau a halen wrth gwrs, yn bartneriaid naturiol (‘mae wy heb halen yn debyg i gusan heb farf’) – ac er bod y rhan fwyaf o’n flasau mynd yn dda gydag omlet gwych, Halen Môr Mwg mae’n debyg yw ein hoff un i’w ddefnyddio yma.

Digon i 2
4 wy buarth neu organig
2 tusw bach o berlysiau meddal,
cymysgedd o unrhyw un o’r canlynol: mintys, persli, dil, cennin syfi, taragon, gorthyfail, basil
ychydig o fenyn neu olew cnau coco
llond llaw fach o gaws gafr, ffeta neu ricotta
mae gratio da o groen lemon
llond llaw o sbigoglys wedi rhwygo

I WEINI
Un neu ddau lond llaw o roced neu ferwr dŵr.
Dewch a’ch holl gynhwysion ac offer at eu gilydd. Mae angen padell ffrio fawr nad yw’n glynu.
Torrwch eich wyau i bowlen, ychwanegwch binsiad go lew o halen a phupur du ffres a’i chwisgio gyda fforc. Torrwch y perlysiau a’u hychwanegu at yr wyau.

0
Your basket