Ein hadduned blwyddyn newydd oedd ceisio cyfuno pleser â busnes. Rwyf yn ffodus iawn fy mod yn mwynhau fy ngwaith, ond dydw i erioed wedi manteisio’n llwyr o’r mannau yr wyf wedi ymweld â nhw.
Felly yr oedd wrth i ni hedfan i Oslo bron i 48 awr o flaen ein hapwyntiad cyntaf yn y Daith Fasnach ‘GREAT’ i Norwy.
Ar ôl swper mawr (gydag amnaid Nordig yn hytrach na bod yn llawn o nodwyddau pinwydd ac wedi swatio mewn mwsogl ceirw) roedd ‘na noson dda o gwsg ac yna codi gan ysu i fynd ar yr hyn a drodd allan i fod yn strafagansa amgueddfa forwrol.
Aeth yr Amgueddfa Fram a ni drwy’r helynt a heriau o fod yn fforwyr Antarctig gyda’i lwyddiant yn seiliedig i raddau helaeth ar y gwaith dylunio clyfar a chynllunio ymlaen.
‘Roedd yr Amgueddfa Kon-Tiki yn wrthgyferbyniad llwyr gyda llwyddiant y daith yn seiliedig ar benderfyniad llwyr gydag ychydig iawn o baratoi.
Ac yn olaf roedd casgliad llongau hir y Llychlynwyr yn cynnwys 3 l long oedd wedi eu darganfod mewn tomenni claddu ond does neb yn siŵr beth oedd arwyddocâd hyn.
‘Roedd ein digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” dilynol yn dda ac yn bleserus fel ‘roedd ein hwyl wrth brynu siwmper Norwyaidd.
Edrychwch allan am David yn gwisgo ei siwmper a het o gwmpas y Tŷ Halen newydd: fo yw’r un sy’n edrych fel clawr patrwm gwau o’r 1960au.
(Gweler y chwith, lle mae’n ôl adref yn yr heulwen ac yn rhoi côt o baent ar ein cwt traeth.)