Mousse Siocled Halen Mwg ac Wisgi
INGREDIENTS
Yn bwydo 4
- 100g o siocled tywyll (o leiaf 70% o solidau coco), ynghyd â 10g fel naddion
- 50g o siocled llaeth
- 30ml o wisgi Madeira Penderyn
- 4 gwyn wy
- 30g o siwgr eisin
- 2 lwy fwrdd o creme fraiche, i’w weini
- ½ llwy de o halen mwg Halen Môn, i’w weini
Pwdin cyfoethog, cytbwys sy’n taro deuddeg bob tro. Mae halen mwg yn ychwanegu blas sawrus braf sy’n ategu’r siocled yn hytrach na’i drechu.
- Torrwch y ddau siocled a’u rhoi yn y bowlen gwrthsefyll gwres a gosodwch y bowlen dros sosban o ddŵr sydd prin yn mudferwi. Trowch yn achlysurol nes bod y siocled wedi toddi ac yn sgleiniog. Tynnwch oddi ar y gwres a throwch yr wisgi trwyddo.
- Mewn powlen gymysgu fawr lân, curwch y gwyn wy nes ei fod yn gopaon meddal, gan ddefnyddio chwisg drydan. Gwasgarwch y siwgr eisin drosto a’i guro eto nes bod y cymysgedd yn ffurfio copaon anystwyth pan fyddwch yn codi’r chwisg allan.
- Ychwanegwch lond llwyaid o wyn wy i’r cymysgedd siocled a’i droi i gyfuno. Plygwch weddill y gwyn wy i mewn gan ddefnyddio sbatwla nes nad oes unrhyw rediadau gwyn i’w gweld. Defnyddiwch lwy i drosglwyddo’r cyfan i gwydraid bach a’u rhoi yn yr oergell am 3 awr.
- Ychydig cyn eu gweini, ychwanegwch creme fraiche ar ben pob mousse, yna gwasgarwch y naddion siocled a’r halen mwg drostyn nhw.
Gan Penderyn