'Mae dŵr mwg o Gymru yn ysgubo'r byd coginio' - Halen Môn

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein Dŵr Mwg wedi’i gynnwys mewn nifer o gyhoeddiadau a ystyriwyd yn dda. Diolch yn fawr i Richard Vine yn y lle cyntaf, a ysgrifennodd y darn gwreiddiol ar gyfer Bloomberg.

Bloomberg:
“I unrhyw un arall, byddech chi’n dweud, ‘Na, ‘da chi ddim fel arfer yn mygu dŵr,’ meddai David Lea-Wilson, perchennog busnes cynhwysion yng Nghymru. Ond ar gyfer Heston Blumenthal? “Rydych chi’n meddwl, ‘Mewn gwirionedd, mae’r boi yma yn gwybod mwy am fwyd na fi. Gadewch i ni godi i’r her. ‘”

Datblygodd Lea-Wilson a’i wraig, Alison, Dŵr Mwg Derw yn eu cwmni Halen Môn yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Maen nhw’n credu mai dyma’r unig gynnyrch naturiol o’i fath sydd ar gael. Mae rhai cwmnïau yn yr Unol Daleithiau yn gwneud cynnyrch mwg hylif gan ddefnyddio cemegau ar gyfer blas. Darllenwch yr erthygl lawn gan Richard Vine, yma.

The Times (DG)
Dwr mŵg, sy’n ddrutach na ambell chwisgi ac yn rhoi i fwyd blas fel pe bai wedi’i goginio dros dân gwersylla, yw’r cynhwysyn angenrheidiol diweddaraf i gogyddion. Mae dŵr wedi’i hidlo’n cael ei fygu’n oer am ddeg diwrnod er mwyn sicrhau’r blas a ddymunir ac ychwanegir at fwyd ychydig diferyn ar y tro. Datblygwyd dŵr mwg – sy’n costio £4.50 am botel 150ml yn Harvey Nichols – gan David a Alison Lea-Wilson, sy’n cynhyrchu Halen Môn yng ngogledd Cymru. Darllenwch yr erthygl lawn gan Simon de Bruxelles yma.

Grub Street:
Mae cwpl yng Nghymru wedi creu diod berffaith i ddilyn eich prynhawn nesaf yn yr haul poeth: Dŵr potel sy’n blasu’n fawr iawn o goed wedi’i losgi. Fe wnaethant y cynnyrch ar gyfer y cogydd o Brydain Heston Blumenthal, ar ôl iddo ofyn amdano. “I unrhyw un arall, byddech chi’n dweud, ‘Na ‘da chi ddim fel arfer yn mygu dŵr,’ meddai David Lea-Wilson, y dyn sydd wedi ei greu yn y pen draw, wrth Richard Vines o Bloomberg. Ond pan fydd perchennog y Fat Duck yn gwneud cais, rhaid codi i’r her.” Darllenwch yr erthygl lawn gan Clint Rainey yma.

Food & Wine:
O farbeciw i wisgi, gall ychydig o fwg ychwanegu cymeriad i bron unrhyw beth. Mae’n tapio i’n greddf gyntefig i goginio ein bwyd dros dân agored. Ond dŵr mwg? Na, nid yw’r dŵr hwn yn cael ei gyflwyno mewn poteli 16-owns a’u gwerthu mewn meysydd awyr a pheiriannau gwerthu, ond mae’r cynnyrch o Gymru (mae’n gwerthu am fwy nag ambell chwisgi) yn dod yn eitem gynyddol boblogaidd mewn rhai cylchoedd coginio. Darllenwch yr erthygl lawn gan Mike Pomranz yma.

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Products you might like
Calculate Shipping