Rydym yn falch i ymuno gyda’n ffrindiau da yng nghŵyl The Good Life Experience, i gynnig gwobr wych ym mis Awst.
2 x docyn gwersylla oedolyn yn Profiad Y Bywyd Da ym mis Medi 2017
2 x docyn oedolyn ar gyfer ein Taith Tywys Tu ôl i Lenni Halen Môn
1 x hamper Halen Môn gwerth dros £50
Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae Profiad Y Bywyd Da ar Ystâd Penarlâg, Sir y Fflint yn gwbl unigryw. Fe’i sefydlwyd gan bedwar ffrind – Cerys Matthews MBE, Steve Abbott a Charlie a Caroline Gladstone. Disgwyliwch codi’ch pabell yng nghysgod ddau gastell, cynnyrch lleol gwych, taflu bwyell, fforio, sesiynau coginio ar dân gwersyll gyda chogyddion gorau’r byd, gwleddoedd dyddiol, canu, dros 40 o grefftwyr arbenigol, cwrw a weinir gan arbenigwyr, sgyrsiau gan arloeswyr, syrcas cŵn, cerddoriaeth aflafar, abseilio, ffair y 1930au am ddim, dringo coed, arddangosfeydd cigyddiaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth – gan gynnwys sgwrs gan Michael Rosen – a sgyrsiau diddiwedd ar ‘Sut i’… Mae pob dim wedi ei anelu at oedolion a phlant fel ei gilydd; nid oes llawer o wyliau sy’n wirioneddol yn gwneud hynny.
Bydd cynnyrch Halen Môn yn blasuso’r holl goginio ar y llwyfan tân gwersyll ac ni allwn aros i weld beth fydd cogyddion yn mynd i ddarparu.
O dan 12 oed yn cael mynediad am ddim.
Croeso i gŵn.
15 munud o Gaer.
I gystadlu, rhaid i chi anfon e-bost atom i hello@halenmon.com gyda BYWYD DA fel y pwnc, gyda’ch enw a beth yn eich barn chi yw ‘Y Bywyd Da.’
Termau a Thelerau
- Mae’r gystadleuaeth yn cau Awst 14
- Ond un cais i bob cyfeiriad e-bost
- • Gwobr y cystadleuaeth yw 2 x docyn gwersylla oedolyn; 2 x docyn oedolyn ar gyfer ein Taith Tywys Tu ôl i Lenni Halen Môn; 1 xhamper Halen Môn gwerth dros £50
- Mae’r tocynnau ar gyfer Halen Môn yn ddilys am chwe mis, mae tocynnau’r ŵyl ddilys ar gyfer 2017 yn unig
- Mae’n rhaid i enillwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn
- Ni allwch ailwerthu gwobrau
- Rhaid i’r hamper gael ei anfon i gyfeiriad yn y DU
- Os nad ydych yn dymuno derbyn ein cylchlythyron ffantastig dywedwch hynny yn eich e-bost