India-corn Cyfan gyda Menyn Paprica a Leim

by | Awst 26, 2021

INGREDIENTS

 Ar gyfer 4 o bobl fel pryd ochr

4 tywysen o india-corn
Olew olewydd, i’w frwsio
½ llond llwy de o Halen Môn mân
Pupur du
100G o fenyn wedi’i halltu (neu 100g o fenyn heb ei halltu a ¼ llond llwy de o Halen Môn mân), ar dymheredd yr ystafell
Croen un leim a sudd ½ leim
½ llond llwy de o baprica poeth wedi’i fygu
2 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u gwasgu neu eu gratio’n fân
Darnau o leim, ar gyfer gweini

Mae’r rysáit hon yn un o dair rydyn ni’n eu cyhoeddi i ddathlu cyflwyno menyn Cymreig hyfryd newydd Castle Dairies, sydd wedi’i wneud â halen môr pur bendigedig Halen Môn. Moethus, hufennog a blasus tu hwnt.

Pan fydd india-corn ar gael ym Mhrydain yn ei dymor byr yn ystod Awst a Medi, mae’r menyn siarp a sbeislyd hwn yn gydymaith perffaith.

Os ydy’r india-corn wedi’i orchuddio â phlisg tenau, tynnwch nhw’n ôl a brwsiwch y corn i roi haenen o olew drosto. Rhowch bupur a halen dros yr india-corn i gyd.

Coginiwch nhw ar farbeciw, gridyll poeth neu o dan y gril (os byddwch yn defnyddio gril neu ridyll, tynnwch y plisg rhag iddyn nhw losgi, ond ar y barbeciw, gellir eu cadw i ffwrdd o’r gwres). Pan fydd y corn wedi troi’n lliw melyn llachar ac yn torri’n rhwydd gyda phigyn cyllell finiog, mae’n barod. Bydd yn blasu’n well fyth os bydd rhywfaint o losg mewn mannau i roi blas mwy myglyd.

Tra bydd yr india-corn yn coginio, cymysgwch weddill y cynhwysion, heblaw am y darnau o leim, gyda’i gilydd mewn powlen gymysgu fach nes y byddant wedi cyfuno. Gellir paratoi’r menyn ymlaen llaw a’i gadw dan orchudd yn yr oergell, os dymunwch chi.

Gweinwch yr india-corn poeth gyda thalpiau hael o’r menyn â blas wedi’i daenu dros y cnewyll, a darnau o leim ar gyfer eu gwasgu.

RECIPE + IMAGE: Anna Shepherd

 

0
Your basket