Halen Môn yn Derbyn Anrheg Penblwydd i'w Cofio: Gwobr y Frenhines am Fenter - Halen Môn

Eleni, wrth troi’n 21 oed, ‘da ni wedi derbyn anrheg penblwydd i’w gofio – Gwobr y Frenhines am Fenter ar gyfer cynaliadwyedd.

Bob blwyddyn ar ei phenblwydd, Ebrill 21, mae’r Frenhines yn dosbarthu nifer cyfyngedig o wobrau ar argymhelliad y Prif Weinidog a’i thîm ymchwil ac asesu. Mae’r Gwobrau am Fenter yn rai o’r anrhydeddau busnes mwyaf eu bri y DU.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, da ni wedi mynd o gwneud halen môr mewn padell ar ein AGA i gyflenwi’r Gemau Olympaidd, Obama a mwy na llond llaw o’r hanner cant o fwytai gorau’r byd. Da ni wedi tyfu’n araf ac yn gynaliadwy, ac mewn amser o ansicrwydd gwleidyddol parthed materion amgylcheddol, da ni mor falch o dderbyn cydnabyddiaeth am y gofal mae ein busnes a’n tîm yn cymryd o’r amgylchedd ac o’i gilydd.

Da ni’n credu bod newidiadau bach iawn yn adio i fyny bethau llawer mwy, ac y gall pob un gwneud rhywbeth i wella cynaliadwyedd a pherfformiad y busnes. Da ni’n gweithredu ‘bonws syniadau da’ – lle mae gweithwyr yn derbyn bonws yn gyfnewid am syniadau ar sut y gallwn wella perfformiad y busnes. Syniad diweddar oedd cael gwared ar bwmp a gadael i ddisgyrchiant gwneud y gwaith (roedd y pwmp wedi ei hargymell gan beiriannydd cemegol.) Mae’n swnio’n amlwg, ond ‘mond un person (Tom) meddyliodd amdano a ‘da ni’n hynod falch iddo am wneud!

Mae gwneud halen môr yn golygu bod gennym lot o ddŵr distyll glân dros ben. ‘Da ni’n ei werthu ar gyfer defnyddiau mor amrywiol â bwyd maglau Gwener a thanwydd ar gyfer modelau trên stêm.

Ar y safle, yn syml da ni’n ailddefnyddio pob dim y gallwn – gwneud arwyddion allan o hen offer a defnyddio hen flwch ffôn i dyfu planhigion tsili a thomato. Y llynedd, plannwyd dôl blodau gwyllt o flaen ein Tŷ Halen i annog bywyd gwyllt, a ‘da ni’n defnyddio ynni solar ein hunain ‘da ni’n cynhyrchu ar y safle bob dydd.

Mae llongyfarchiadau mawr yn mynd i bob un o’n tîm. ‘Da ni wedi prynu polyn fflag newydd a byddwn yn falch hedfan baner Gwobr y Frenhines am y pum mlynedd nesaf.

0
Your basket