‘Mae The Meadow yn dathlu hanfodion elfennol y bwrdd trwy archwilio amrywiaeth ac arlliwiau sy’n ein hysbrydoli. Rydym yn croesawu ein cwsmeriaid gydag arbenigedd, brwdfrydedd, ac awydd i rannu ein diddordeb mewn bwyd a diwylliant. Trwy’r genhadaeth syml rydym yn ymdrechu i wneud marc annileadwy, un bwrdd ar y tro.’
Da ni wedi bod yn gefnogwyr o Mark Bitterman– a elwir yn y diwydiant fel ‘selmelier,’ arbenigwr byd mewn halwynau môr – am beth amser, felly nid oedd yn syndod i ni mai un o uchafbwyntiau’n taith i Efrog Newydd fis diwethaf oedd ymweld â’i siop hardd, The Meadow. Mae ei lyfr Salted: A Maniefsto yn un o’n ffefrynnau.
Wrth gerdded i mewn, rown ni’n gwybod ein bod am fod yno am sbel. Cawsom ein croesawu gan amrywiaeth bywiog a lliwgar o flodau ffres, chwerwon aromatig, siocledi arbennig a halwynau byd-enwog. Beth oedd yno i beidio hoffi?
Ein swydd gyntaf, yn amlwg, oedd lleoli’n cynnyrch ar y silffoedd, ond yn fuan tynnwyd ein sylw gan res ar ôl rhes o fariau o siocled wedi lapio mewn papur patrymog, jariau gwydr o sesnin egsotig, blychau bach pren llawn halen, caramelau llaeth gafr hufennog, a fâs ar ôl fâs o flodau persawrus ffres.
Y cabinet chwerwon oedd y nesaf i ddal ein sylw fodd bynnag, ac yn wir, yr hylifau yma yw testun cyfrol ddiweddaraf Marc Bitterman’s Field Guide to Bitters & Amari. Rhoddodd Abe, y dyn gwybodus oedd yn gofalu amdanom, yr hanes yn gryno.
Yn draddodiadol, roedd chwerwon yn dinturiau o blanhigion gydag eiddo meddyginiaethol yn ôl yr honiad. Y mwyaf adnabyddus mae’n debyg yw chwerwon Angostura – a ddatblygwyd yn wreiddiol fel ateb i broblemau stumog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sicr yn America, mae chwerwon yn awr yn gweld adfywiad, gyda phob bar gwerth ei halen (ahem, sori) gyda nifer mewn stoc i ychwanegu cydbwysedd at eu coctels.
Ddaru ni flasu’r diferion lleiaf o chwerwon o wraidd dant y llew i hopys, cardamom i seleri, a gorffen trwy flasu tri gwahanol fath o Grenadine.
Yn ôl adref ddaru ni archebu llyfr Mark, ac nid oeddem yn siomedig pan gyrhaeddodd o. Yn ogystal â chanllawiau ar gyfer gwneud eich chwerwon eich hun, ryseitiau coctel anhygoel a rhywfaint o hanes diddorol iawn, mae llond llaw o ryseitiau bwyd.
Mae Bloody Mary Gazpacho a Lemon Cardamom Bittered Ice Cream Sandwich yn ddau o’n ffefrynnau.
Os da chi’n awchu am fwy, gallwn argymell rysáit Mark ar gyfer Siocled Yfed, a wnaed gyda’n halen fanila, neu mae ei lyfrau yn gwneud anrhegion Nadolig gwych. Iechyd Da.