Mae’r rysáit hon yn galw am heli i feddalu ac, yn ei hanfod, i ddechrau coginio’r gwreiddlysiau cyn iddyn nhw gael eu gradelli. Mae ganddynt flas sbeislyd disglair, a gwead meddal blasus, yn wahanol iawn i’r iogwrt llyfn, oer. Fe wnaethon ni ddefnyddio betys, moron a seleriac yma, ond byddai cymysgedd o wreiddlysiau eraill yn gweithio hefyd.

Caws iogwrt wedi’i hidlo yw labneh sydd angen ychydig oriau i’w datblygu, ond unwaith y byddwch chi wedi treulio pum munud i’w ddechrau, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth arall.

450g iogwrt Groegaidd
250ml finegr gwyn
700ml o ddŵr
50ml Heli Pur Cryf
40g siwgr mân
2 deilen bae
10 pupren
10 had coriandyr
2 glof
300g betys cymysg (rhowch gynnig ar gymysgedd o borffor, melyn a chlasurol)
300g moron cymysg, wedi’u plicio a’u haneru o’r top i’r gwaelod
150g o seleriac, wedi’i falu’n fras a’i dorri’n drionglau afreolaidd
llond llaw o ddail basil, wedi ei olchi a’i dorri’n fras
olew olewydd

Dechreuwch trwy wneud y labneh. Rhowch ogr dros fowlen (gan adael ychydig o gentimetrau yn glir rhwng gwaelod yr ogr a’r bowlen). Leiniwch yr ogr gyda lliain caws neu ychydig o haenau o fwslin. Mi all lliain sychu glan gwneud yr un peth hefyd. Arllwyswch yr iogwrt i ganol y brethyn a’i gorchuddio. Rhowch o’r neilltu am 4-6 awr, neu dros nos.

Wedi i’r labneh fod yn draenio am ychydig oriau, gwnewch y cwriwr trwy arllwys y finegr, dŵr, Heli Pur Cryf, siwgr a sbeisys i mewn i sosban fawr. Gosodwch dros wres canolig a rhowch y betys yn y sosban hefyd. Coginiwch y betys ar ferwi ysgafn am 10 munud, yna tynnwch o’r dŵr heli a’i redeg dan ddŵr oer. Rhwbiwch y croen o’r betys a’i rhoi ar un ochr.

Nesaf, ychwanegwch y moron a’r seleriac i’r sosban a’u coginio’n ysgafn am 5 munud. Tynnwch o’r sosban a’u sych gyda phapur cegin. Byddant wedi eu staenio’n ysgafn â phinc o’r betys, ond bydd hyn yn edrych yn bert pan fyddant wedi eu coginio.

Cynheswch eich padell gradelli i’w wres uchaf am o leiaf 5 munud. Yn y cyfamser, torrwch y betys yn dalpiau maint cwpl o segmentau clementin. Coginiwch y llysiau mewn sypiau am 3-4 munud ar bob ochr, heb eu symud rhwng eu troi (bydd hyn yn helpu’r marciau clir i ffurfio a blas blasus mwg i’w datblygu).

Lledaenwch y labneh ar blât a threfnwch y llysiau sydd wedi’u chario drosto. Ychwanegwch y dail basil ac olew olewydd. Os gallwch chi gofio, mae chwistrelliad o Heli Pur Cryf i orffen yn flasus.

LLUN: Jess Lea-Wilson
RYSÁIT: Anna Shepherd

Any orders placed between 20th Dec – 4th Jan will be despatched on 4th Jan 2021. Read More.

beach

Stay in touch

We put a lot of time and care into our newsletters, and want them to be something you look forward to opening rather than deleting.

Expect original recipes from brilliant chefs, links to interesting and delicious things, and of course, plenty of beautiful pictures of the Salty Isle. It's a flicker of Ynys Môn in your inbox, around once a month.

We know you get a lot of emails and we promise not to go overboard. You can unsubscribe at any time.

0
Your basket