Gwrd (squash) haf wedi'i farinadu gyda menyn tsili a thomato olosgedig - Halen Môn

Gwrd (squash) haf wedi’i farinadu gyda menyn tsili a thomato olosgedig

by | Gor 21, 2022

INGREDIENTS

Ar gyfer 4-6 person fel dysgl ar yr ochr

    • 4 corbwmpen fawr (tua 800g), rydym yn hoffi’r cyferbyniad rhwng y gwyrdd golau a’r dwfn, a chorbwmpenni melyn wedi eu coginio gyda’i gilydd
    • 4 ewin o arlleg, wedi eu malu
    • 1 llond llwy ffwrdd o finegr gwin coch
    • Sudd a chroen ½ lemon
    • 4 llond llwy fwrdd o olew olewydd
    • 1 llond llwy ffwrdd o fwstard mêl Halen Môn wedi ei fygu
    • ½ llond llwy de o Halen Môn ar ffurf darnau mân
    • Llond llaw o oregano, marjoram neu deim ffres
    • Halen môr ar ffurf darnau mân, i’w weini

       

      Ar gyfer y menyn tsili

    •  2 tsili coch
    • 4 ewin garlleg
    • 3 sbrigyn o rosmari
    • 4 tomato aeddfed
    • ½ llond llwy de o Halen Môn pur ar ffurf darnau mân
    • ½ llond llwy ffwrdd o siwgr mân
    • 100g o fenyn heb halen, ar dymheredd ystafell
    • Dewisol: ½ llond llwy de o ddŵr Halen Môn wedi’i fygu

Pan mae corbwmpenni crwn caled a phadell batis gwrd ar gael, rhowch gynnig arnyn nhw ynghyd â chorbwmpenni ar y gril. Rwy’n tueddu i’w sleisio i dalpiau er mwyn cael y mwyaf o’r cyferbyniad mewn gwead, gydag ochr deneuaf y talpiau wedi eu mygu ac yn crensian tra bod yr ochrau â chroen yn aros yn hufennog a mwyn.

Sleisiwch y corbwmpenni i ddarnau 1cm ar eu hyd, a’u rhoi mewn dysgl rostio fawr gyda’r garlleg. Chwisigiwch weddill y cynhwysion ar gyfer y corbwmpenni mewn jwg, yna tywalltwch nhw dros y corbwmpenni sydd wedi eu sleisio a’u cymysgu â’ch dwylo i orchuddio’r cyfan. Gorchuddiwch nhw a’u gadael ar dymheredd ystafell am hyd at 2 awr, neu yn yr oergell am hyd at 24 awr.

Pan rydych yn barod i wneud y barbeciw, sicrhewch nad yw’n mygu a bod y colsion yn wyn. Golosgwch y tsilis ar gyfer y menyn tomato hyd nes bod llinellau du arnynt, yna tynnwch nhw oddi ar y gwres. Coginiwch ychydig o’r corbwmpenni ar y tro hyd nes bod pob sleisen yn hollol feddal a bod marciau llinell o’r gril ar bob ochr. Trosglwyddwch nhw i blât ar gyfer eu gweini a thaenu halen ar ffurf darnau mân drostynt. Cadwch hwy’n gynnes o dan ffoil neu mewn popty gwres isel hyd nes eich bod yn barod i’w gweini.

I wneud y menyn tomato, torrwch y tsilis golosgedig gyda’r garlleg a rhosmari. Defnyddiwch y tyllau brasaf ar ratiwr bocs i ratio’r tomatos i ddysgl gymysgu (taflwch y crwyn, neu defnyddiwch nhw mewn stoc llysieuol). Cyfunwch y tomatos gyda’r gymysgedd tsili a garlleg, yna ychwanegwch yr halen a’r siwgr a’i gymysgu. Trosglwyddwch y gymysgedd i sosban a’i goginio dros wres canolig am 5-7 munud hyd nes bod ychydig o hylif ar ôl yn y sosban a’r tomatos wedi troi’n lliw coch rhydlyd. Tywalltwch i ddysgl prosesydd bwyd a gadael iddo oeri. Ychwanegwch y dŵr wedi’i fygu, os ydych yn ei ddefnyddio.

Pan mae’r gymysgedd tomato wedi oeri, ychwanegwch y menyn i’r prosesydd bwyd a’i chwisgio. Trosglwyddwch i ddysgl hyd nes eich bod yn barod i’w weini.

Cynheswch y menyn yn ofalus cyn arllwys llond ychydig o lwyau dros y corbwmpenni’n ysgafn cyn ei weini, gan roi’r gweddill mewn dysgl ar y bwrdd.

Gellir defnyddio unrhyw fenyn dros ben i’w gymysgu gyda ffa gwyrdd wedi eu coginio; ei dywallt yn ysgafn dros gyw iâr; wedi ei daenu ar frechdan; wedi ei gymysgu â phasta neu risoto ychydig cyn ei weini neu wedi ei daenu ar dost gydag wyau i frecwast.

0
Your basket