Nid pob dydd byddwch yn derbyn amlen o 10 Stryd Downing, ond dyna beth ddigwyddodd ychydig o wythnosau yn ôl, pan wahoddwyd HM, gan David Cameron, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Yn fuan wedi taith Alison i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i gwrdd â 49 Sêr Bwyd arall (blog i ddilyn), aethom ni (Hamish a Jess HM), yn gwisgo ein dillad gorau, ar ein ffordd i San Steffan. Trafodwyd os byddai’n iawn i droi i fyny mewn gwisg cefnogwyr rygbi Cymru sef het cennin Pedr a baner, ond setlo ar gennin Pedr go iawn a brynwyd ar frys o’r siop gornel gwnaethon ni.
Roedd y noson yn ddathliad o bopeth Cymreig – bwyd a diod wych, cerddoriaeth swynol a chwmni ardderchog. Darparwyd diodydd gan hen ffrindiau Wisgi Penderyn a ffrindiau newydd Bragdy Tiny Rebel, gyda detholiad gwych o fwyd a baratowyd gan Graham Tinsley a’i dîm yn y gegin.
Darperir adloniant gyda nifer o ddatganiadau bywiog o’r clasuron gan y côr meibion ffantastig Eschoir. Roedd y gwesteion yn gymysgedd diddorol o fusnesau mawr a bach, gan gynnwys ein ffrindiau o Aur Clogau, academyddion, gwleidyddion a rhai enwogion golygus iawn!
Cawsom gyfle i fachu sgwrs gyflym gyda David Cameron, a dymunodd pob hwyl i ni yn ein Tŷ Halen newydd gan ein hatgoffa mai ‘rŵan mae’r gwaith caled yn dechrau!’ Roedd Stephen Crab hefyd yn groesawgar iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ei dywys o gwmpas pan fydd ein teithiau yn weithredol.
Wrth i ni adael (rwy’n credu mai ni oedd yr olaf), cawsom ein ffonau symudol yn ôl ag fe wasgo’n ni selffi digywilydd i mewn o flaen y drws mwyaf enwog yn y byd. Noson wych – diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad.
I wylio fideo o’r noson, gweler gwefan y BBC, ac am drawsgrifiad o araith y Prif Weinidog, ewch i wefan y llywodraeth.