Galette Cenin - Halen Môn

Galette Cenin

by | Ebr 20, 2021

INGREDIENTS

Yn bwydo 6, wedi’i weini â salad

 ar gyfer y crwst

  • 50g o gnau cyll wedi’u tostio

  • 125g o flawd gwenith cyflawn

  • 125g o flawd plaen

  • 125 o fenyn oer, mewn ciwbiau

  • Halen môr pur ar ffurf darnau mân

  • 2 llwy fwrdd o ddŵr oer iawn

    ar gyfer y llenwad

  • 200g o Datws Cynnar Sir Benfroneu datws newydd

  • 2 llwy fwrdd o olew olewydd

  • 1 nionyn gwyn mawr wedi’i sleisio’n denau

  • 2 genhinen, sleisys trwchus 2-3cm

  • 100g o gaws Caerffili, neu unrhyw gaws caled arall

  • Llond llaw o berlysiau (persli, mint neu gennin syfi)

  • Croen hanner lemon

  • Halen môr pur
    Pupur du wedi’i falu

  • 1 wy, wedi’i guro

Mae galette yn lle gwych i ddechrau os ydych yn newydd i’r grefft o greu crwst, gan ei bod yn darten rydd sydd i fod i edrych yn rystig. Gellir hefyd addasu’r rysáit i ddefnyddio llysiau a pherlysiau tymhorol. Mae modd gwneud y crwst cnau cyll gyda blawd plaen ond mae defnyddio cymysgedd o flawd plaen a gwenith cyflawn yn gwneud crwst cneuog a briwsionllyd blasus..

Chwalwch y cnau cyll mewn prosesydd bwyd nes eu bod yn fân, yna ychwanegwch y blawd, y ciwbiau o fenyn a’r halen. Ychwanegwch y dŵr oer yn raddol a churwch yn araf nes bod y cymysgedd yn ffurfio pêl. Ar ôl cyfuno, lapiwch y toes a’i oeri am o leiaf 24 munud. Mae modd oeri’r crwst dros nos, a bydd yn para am dridiau yn yr oergell os hoffech ei wneud ymlaen llaw.

Cynheswch y popty i 200C/ ffan 180C/nwy 6.

I wneud y llenwad, mudferwch y tatws mewn dŵr hallt (bydd hyn yn cymryd rhwng 10-15 munud, yn ddibynnol ar faint eich tatws). Ar ôl eu draenio a’u hoeri, torrwch y tatws yn ddisgiau tenau. Cynheswch 1 llwy bwrdd o olew mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y nionod a’u ffrio’n araf ar wres isel gyda phinsiad hael o halen am 10 munud neu nes eu bod wedi meddalu’n llwyr. Ychwanegwch y cennin i’r badell gyda’r ail lwy fwrdd o olew a’u ffrio am 5 munud.

Tynnwch y crwst o’r oergell, gosodwch haen fawr o bapur pobi ar arwyneb gwaith ac ysgwyd ychydig o flawd drosto. Gosodwch y crwst ar y papur pobi a defnyddiwch rolbren â blawd arno i rolio’r crwst mewn cylch o thua 35cm o ddiamedr. Nid oes rhaid i’r cylch fod yn berffaith, ond dylai fod tua 2mm o drwch.

Yn gyntaf, ychwanegwch y nionod a‘r cennin, y perlysiau ffres ac yna ychwanegwch friwsion caws dros y crwst, gan adael ymyl o thua 3cm. Yn olaf, ychwanegwch y disgiau o datws ynghyd ag ychydig o olew olewydd a’r croen lemon.

Plygwch yr ymyl dros y llenwad, peidiwch â phoeni am fod yn rhy daclus, gwnewch blygiadau pan fo angen ac os yw’r crwst yn torri, gallwch ei binsio yn ôl at ei gilydd. Brwsiwch yr ymyl sydd wedi’i blygu gyda’r wy sydd wedi’u guro ac ychwanegwch halen a phupur.

Sleidiwch y galette, sydd yn dal i fod ar y papur pobi, ar hambwrdd pobi a phobwch yn y popty am 45 munud. Mae’n barod pan fydd y tatws a’r crwst yn euraidd.

IMAGE + RECIPE: Elly Kemp

 

0
Your basket