Ffa gwyrdd golosgedig gyda feta menyn mêl hallt

by | Medi 6, 2022

INGREDIENTS

Ar gyfer 4-6 person fel dysgl ar yr ochr

  •  400g o ffa cochion, pen y coesau a’r llinynnau wedi eu tynnu
  • Olew, ar gyfer ei dywallt yn ysgafn
  • ½ llond llwy de o Halen Môr Môn
  • 1 lemon heb gŵyr, wedi ei dorri yn ei hanner

Ar gyfer y feta

  • 200g o feta
  • 2 llond llwy ffwrdd o fenyn mêl hallt Halen Môn
  • 4 sbrigyn o deim
  • Pupur du

Er mai ychydig o gynhwysion sydd ynddo, mae’r rysáit hwn yn llawn blas. Mae’r mwg a’r tân o’r barbeciw yn trawsnewid y ffa o fod yn ffres a gwichlyd i fod yn fwyn ac wedi eu mygu’n gelfydd. Mae’r menyn mêl hallt yn gweithio’n wych gyda feta heli (astudiaeth o ba mor ddynamig yw ein hoff flas), ond fe fyddai’n wych wedi ei ychwanegu at halwmi wedi ei ffrïo yn y 30 eiliad olaf, neu wedi ei dywallt yn ysgafn dros gaws gafr sawrus hefyd.

Cymysgwch y ffa mewn digon o olew i’w gorchuddio ac ychwanegwch halen. Rhowch i’r naill ochr. Rhowch y feta yng nghanol darn o ffoil a rhowch lwyaid o’r menyn mêl hallt drosto. Rhowch y teim ar ben y mêl a ychwanegwch ddigon o bupur du. Lapiwch y ffoil i selio’r feta a’r menyn mêl hallt yn y parsel a’i osod ar y barbeciw poeth.

Rhowch y lemon, gyda’r ochrau sydd wedi eu torri am i lawr ar y gril a’u coginio am ychydig o funudau hyd nes maent yn olosgedig. Yna rhowch nhw ar blât.

Coginiwch y ffa cochion ar y barbeciw hyd nes maent wedi pothellu ar bob ochr ac yn feddal wrth roi blaen cyllell finiog ynddynt. Rhowch y ffa mewn dysgl i’w gweini. Tynnwch y feta oddi ar y barbeciw ac agorwch y ffoil yn ofalus gan y bydd y mêl yn eithriadol o boeth. Defnyddiwch lwy i drosglwyddo’r feta i ganol y ddysgl, y saws, perlysiau a phopeth. Pan mae ddigon oer i afael ynddo gwasgwch sudd hanner lemon dros y feta a’r ffa a defnyddiwch lwy i dorri darnau o feta i’w gosod ar blatiau gyda’r ffa.

 

0
Your basket