Tîm Halen Môn
Rydym yn dîm bach ond cryf o ugain o bobl gyda dau Jack Russell cegog, sydd fel arfer yn fodlon braf o flaen y stôf llosgi coed yn y siop.
Rydym wedi bod yn fusnes teuluol ers y cychwyn cyntaf, ac mae tri phlentyn Alison a David yn gweithio i HM mewn ffyrdd gwahanol.
Credwn ei bod hi’n bwysig ac yn gysur gwybod fod eich bwyd wedi ei baratoi gan unigolyn nid peiriant. Dyma pam y byddwn yn rhoi priflythrennau’r paciwr ar bob paced neu diwb o halen môr a gynhyrchwn.
Gallwch baru’r priflythrennau sydd ar eich pecyn â’r lluniau isod:

Gareth
Arweinydd y Tîm Cynaeafu (GJ)
Mae Gareth wedi mopio efo Manchester United, y Manic Street Preachers a’i deulu, nid yn y drefn honno efallai.

Eifion
Arweinydd Tîm Anfon (EJ)
Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth i ŵr sydd wedi gweddnewid ein hystafell ddosbarthu; mae Eifion yn hoffi gweld popeth yn ei le, gan osod a lapio’n paledau. Mae’n ffotograffydd brwd hefyd.

John
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (JFH)
John yw’r gweithiwr sydd wedi bod yma hiraf ac ni chollodd ei angerdd at halen môr. Ei ddiddordeb gonest sy’n llwyddo i’w wneud mor fedrus yn ei waith. Mae’n mwynhau treulio gwyliau gyda’i deulu ar ynys Zakynthos yng Ngwlad Groeg ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y modd y llwyddodd pobl y wlad honno, ganrifoedd yn ôl, i gynaeafu’u halen.

Zinzan
Ci’r Cwmni
Zinzan yw un o weithwyr gwreiddiol Halen Môn ac mae’n tueddu i setlo ar y bag ffa wrth ymyl y stôf llosgi coed ac yn pwdu pan fydd David yn gadael y swyddfa.

Kate
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (KS)
Mae Kate yn un o’n gweithwyr mwyaf newydd. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau ambell reid ar geffyl ochr yn ochr â digon o gerdded. Mae wrth ei bodd yn darllen unrhyw beth gan Agatha Christie.

Eleri
Staff Tywys a Manwerthu
Yn adnabyddus am ei gwên, a’r llysenw ‘Google translate’ am ei sgiliau cyfieithu defnyddiol iawn, mae Eleri wrth ei bodd gydag Ynys Môn, yr awyr agored, a Hello Kitty.

Jim
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (JP)
Pe na bai wedi bod yn gynaeafwr halen gallai fod wedi bod yn chwaraewr dartiau proffesiynol. Mae Jim hefyd wrth ei fodd beicio a golchi ei Astra ar bob cyfle.

Edwen
Paciwr Halen (EW)
Edwen yw cogyddes y gacen gri orau ar Ynys Môn. Mae’n mwynhau pacio ein halen môr Chilli ac yn treulio’i hamser hamdden yn cerdded gyda’i chi annwyl, Jess.

Ronan
Rheolwr Cynhyrchu
Mae gan Ronan gefndir amrywiol a difyr iawn yn y diwydiannau cig ac archfarchnadoedd yn ogystal â chyfnod cyfrinachol yn y gorffennol fel dawnsiwr Gwyddelig cystadleuol.

Jen
Myfyriwr ar Leoliad
Pan na fydd myfyriwr Prifysgol Bangor Jen mewn labordy, gallwch gael hyd i’r paffiwr fel arfer yn y gampfa (neu’r dafarn agosaf).

Keith
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (KOG)
Yn bencampwr y ‘galaxy swirl’, mae Keith yn dipyn o arbenigwr fel cynaeafwr ein halen môr, yn medru golchi’r halen yn gynt nag unrhyw un arall yn y byd halen, ac yn beicio i’w waith bob diwrnod, haul neu hindda.

David
Partner
Anaml y gwelwch David yn sefyll yn llonydd. Mae’n dylunio cwt halen newydd, cyflwyno ceisiadau cynllunio neu’n rhoi trefn ar y paneli solar. Alison yn unig sy’n feistr arno a llwyddo i’w gadw yn y swydddfa.

Bella
Ci’r Cwmni
Mae Bella yn mwynhau rhedeg ar ôl pêl rygbi fach, yn pryfocio’r hwyaid a bwyta bisgedi Nicki a Ronan.

Ella
Prosesydd Gwerthiant
Mae Ella wrth ei bodd yn coginio a phobi, ac ymlacio gyda gwydraid o Bordeaux. Mae hi wedi cytuno rhedeg hanner marathon gydag Anthony a Ronan, ac ar hyn o bryd yn cwestiynu penderfyniad hwnnw’n fawr iawn.

Nicki
Cynorthwy-ydd Personol ac Uwch Weinyddwr
Hi yw canolbwynt y swyddfa ac mae ganddi dros 80 o liwiau o bolish ewinedd, yn mwynhau mynd i’r theatr yn Llundain ac mae’n treulio’r rhan fwyaf o’r prynhawniau yn breuddwydio am Matt Le Blanc ac esgidiau.

Tom
Arweinydd Tîm Peiriannau (TJ)
Daeth Tom yn ôl adref i Ynys Môn ar ôl treulio amser yn Iwerddon a gall ymdopi ag unrhyw waith yn y maes cynhyrchu halen. Mae’n mwynhau chwarae golff, pysgota môr a theithio a’i fwriad yw ceisio cyfuno’r tri.

Alison
Partner
Ers cychwyn y cwmni yn 2002 mae Alison wedi creu nifer o flasau bendigedig o Halen Môn a theithio’r byd i’w werthu, gan gynnwys Hong Kong, Dubai ac Efrog Newydd.

Hamish, Jake a Jess
Yr Ail Genhedlaeth
Mae plant Alison a David i gyd yn gweithio yn y busnes mewn amrywiaeth eang o ffyrdd – o adeiladu a chynnal y wefan hon i ffilmio fideo’r daith tywys a dod i fyny gyda chynnyrch newydd. Un peth sydd bob amser yn dod â’r tri at ei gilydd yw eu cariad at fwyd da eu mam.