Ein myglydfa arobryn

by | Medi 2, 2024

Fe wnaethom adeiladu ein myglydfa gelfyddydol ein hunain yn wreiddiol yn 2008 i ychwanegu ymyl sawrus i’n halen môr. Llwyddiant y cynnyrch cyntaf hwnnw a barodd inni arbrofi ymhellach, ac rydym bellach yn mygu cynhwysion eraill, gan gynnwys ein Dŵr Mygwyddedig Oes Gwobrwyo Bwyd Mawr. Mae cymaint o alw am y cynhyrchion hyn – o’r cogydd cartref i wneuthurwyr prydau parod i fwytai â sêr Michelin – ein bod bellach yn cyflogi pedwar o bobl leol drwy’r flwyddyn yn y myglydfa, fel rhan o’n tîm cryf o bump ar hugain, gan dalu’r Cyflog Byw Go Iawn.

Mae’r gymuned yn ganolog i Halen Môn a phopeth a wnawn yn anelu at ddathlu adnoddau ac enw da Ynys Môn. Yn unol â hyn, cafodd ein myglydfa ei monitro’n annibynnol ar sail ddyddiol am flwyddyn lawn gan gyngor sir Ynys Môn, ac roedd yn cyfarfod ac yn rhagori ar safonau aer glân Cymru yn rhwydd.

Byddwn bob amser yn fusnes cyfrifol ac yn parhau i weithio gyda chynghorwyr peirianegol arbenigol a chwmnïau arbenigol i sicrhau ein bod mor ystyriol ac effeithlon â phosibl. Mae ein hadeilad yn rhagori ar yr holl fanylebau technegol ac yn dangos ein bod yn mynd yr ail filltir i wneud ein datblygiad yn un sensitif.

Mae datblygiad sensitif yn rhan sylfaenol o’n hegwyddorion cwmni B CORP. Rydym hefyd yn radd AA+ gan BRC ac mae ein myglydfa yn rhan allweddol o’n Saltcote, Canolfan Ymwelwyr a chaffi Llanw/Tide, sydd oll yn derbyn miloedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Rydym yn bodoli, yn rhannol, i ddathlu’r ynys anhygoel yr ydym yn ei galw’n gartref, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu cynhyrchion mwg gan ddathlu arfordir toreithiog Ynys Môn, mwy o bartneriaethau gyda chynhyrchwyr bwyd Cymreig eraill a mwy o aelodau tîm medrus, oll yn ein helpu i gyflawni ein cam nesaf o dwf arloesol a chynaliadwy dros y degawdau i ddod.

 

0
Your basket