Er ein bod yn sicr y bydd unrhyw un sydd yn caru bwyd wrth ei bodd gyda rhodd o Halen Môn y Nadolig hwn, ond da ni’n deall bod dewis yn gallu bod yn anodd weithiau, felly da ni wedi llunio canllawiau Nadoligaidd cyflym ar gyfer y gwahanol bobl yn eich bywyd.

AR GYFER EICH SIÔN CORN CYFRINACHOL

Mae ein Mygiau Enamel Unigryw (£7.95) yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd wrth eu bodd gyda sylw bachog neu yn wir, panad da. Da ni’n hoffi cadw halen ynddo hefyd.

Erioed wedi clywed am Halen Môr Coeden Nadolig (£5.75)? Go brin y bydd eich Siôn Corn Cyfrinachol chwaith.  Dyma rywbeth Nadoligaidd perffaith ac mae’n dod i mewn jar fach giwt ynghyd â llwy fach hefyd.

enamel_mug_frontlights
Christmas_tree_3

AR GYFER Y SAWL GYDA DANT MELYS

Y tu mewn i’n hambwrdd te pren sydd wedi stampio â llaw, mae ein Hamper Melys a Hallt (£31.95) yn cynnwys anrhegion ar gyfer y rhai sydd â dant melys yn ogystal ag un hallt.

Dywedodd y cogydd ac ysgrifennwr bwyd Sophie Dahl wrth The Times, “Pe gallwn i chwifio hudlath, byddwn yn bob amser yn cael oergell yn llawn o Waffers Halen Môr Rococo (£14.50)”. Da ni’n cytuno’n llwyr.

Sweet_and_Salty_Spreadlights
group

AR GYFER YR EGIN GOGYDD

Da chi’n nabod rhywun sydd angen ychydig o help yn y gegin? Mae ein Halen Môr gyda Garlleg Rhost (£5.50) yn ychwanegu blas cyflym i brydau syml fel stwnsh tatws neu wyau wedi’u sgramblo. Hawdd ond trawiadol.

Mae ein Hamper Hanfodion y Gegin (£21.95) yn cynnwys Halen Môr Pur, Pupur Du wedi cracio, ynghyd â rhywfaint o sebon hyfryd a’n Dwr Mwg enwog.

garlic100glights
Kitchen_Essentials_Spread

AR GYFER Y SAWL SYDD WRTH EU BODD GYDA BBQ

Mae ein Dŵr Mwg (£3.95) yn amlbwrpas, anarferol ac yn un o’n cynnyrch mwyaf poblogaidd. Bydd unrhyw gogydd creadigol wrth ei bodd yn arbrofi gyda’r sesnad hollol naturiol yma sy’n dod blas yr haf dan do.

Mae ein Halen Môr Mwg dros Dderw (£5.50) yn arogli fel noson tân gwyllt. Mae’n ychwanegiad blasus i bwdinau caramel, yn orffeniad pen ei gamp ar wy wedi’i botsio ac yn rhoi cic i goctel.

1lights
smoked_100g

STEIL YN Y GEGIN

Bydd ein Set o Lestri Halen (£19.95) yn edrych yn glasurol ar gownter unrhyw gegin. Hardd a defnyddiol.

Yr anrheg sy’n gwerthu orau, ac am reswm da, yw ein Jar Halen Pur (£13.50). Cynhwysydd perffaith ar gyfer ein fflochau enwog.

Pigslights
kilner_100g

AR GYFER Y POBYDD BRWD:

Mae ein Ffedogau Denim a wnaed ym Mhrydain (£45.00) yn gyfforddus ac  ymarferol, tra hefyd yn edrych yn steilus. Maent yn dod wedi pacio mewn tun hardd – delfrydol os nad yw eich sgiliau lapio yn drawiadol!

Mae unrhyw bobydd gwerth ei halen yn gwybod bod fanila yn gwneud popeth yn well. Da ni’n cymysgu fanila gorau’r byd gyda halen môr gorau’r byd (£6.00). Rhowch gynnig arni mewn teisen frau caramel, Cacenni Cri neu ar ben Crème brûlée.

Ella_apronlights
vanilla100g

0
Your basket